Cawsom
newyddion gwych heddiw – bydd Neuadd Pantycelyn yn parhau fel
neuadd preswyl Cymraeg
Ers
cryn amser, mae Neuadd Pantycelyn – neu Panty fel mae pawb yn galw
hi – wedi gwneud cyfraniad gwych at y Prifysgol, yr Ardal, yr Iaith
Gymraeg a'r Genedl Gymreig, drwy ddarparu canolbwynt i ddiwylliant
Cymraeg sydd yn cynnwys llety i fyfyrwyr Cymraeg y prifysgol, ac
hynny gan ei bod hi'n neuadd agored gyda 6 ystafell cymdeithasol –
Lolfa Fawr (ymlacio), Swyddfa UMCA (Undeb Myfyrwyr Cymraeg
Aberystwyth), Ffreutur, Ystafell Cyfrifiaduron, Ystafell Cyffredin
Hyn (cyfarfodydd), a'r Lolfa Fach (Cor, dawnsio ayyb)
Des
innau i'r brifysgol o dde-ddwyrain Lloegr bron a saith mlynedd yn ol
heb y Gymraeg, a bywes ym Ymhantycelyn i ddysgu. Roedd ffurfweddiad y
neuadd a'r cymdeithas ynddi yn hynod o gymorthgar yn fy ngalluogi i
ddysgu Cymraeg, ac roedd yn profiad anhygoel – cwrdd a fyfyrwyr
Cymraeg o bob cwr o Gymru (a thu hwnt mewn sawl achos), gweld – ac
ymuno a – cyfres o weithgareddau diwyllianol ag oedd yn digwydd yn
y stafelloedd cymunedol. I sawl myfyriwr Cymraeg o ardaloedd Saesneg
hefyd, sydd weithiau ddim wedi arfer siarad Cymraeg tu hwnt i'r
giatiau ysgol, dyma'r tro gyntaf iddynt fyw mewn cymuned Cymraeg. Ac
heb anghofio'r hawl i fyfyrwyr Cymraeg iaith gyntaf i fyw yn eu
hiaith eu hunain. I bawb sydd yn ddod i Bantycelyn, mae'r profiad yn
amhrisiadwy.
Mae
myfyrwyr Pantycelyn yn gwneud cyfraniad gwych i'r cymuned ac i Gymru
– er enghraifft mae'r Cor yn canu yn y dref bob nadolig, mae Aelwyd
Pantycelyn aml yn cyrraedd rowndiau terfynol yn eisteddfodau gan codi
proffil Aberystwyth ac mae Wythnos RAG aml yn codi tua £1000 neu mwy
i elusenau
Roedd
y cynlluniau i gau Pantycelyn yn cas ac yn amlwg yn seiliedig ar
resymeg ariannol ar draul yr iaith Gymraeg a'r gymuned Gymraeg yn y
prifysgol, felly dwi'n hynod o falch bod y prifysgol wedi gwrando yn
y diwedd, yn sgil sawl brotest ag ro'n i'n falch i fod yn rhan
ohonynt, ac wedi penderfynu cadw Pantycelyn ar agor.
Mae'r
cynlluniau newydd yn cytuno i gadw'r bron iawn o Bantycelyn fel
neuadd preswyl Cymraeg, ond o bosib gyda sawl ystafell yn cael eu
troi'n rhan o Ganolfan Cymraeg newydd i'r holl prifysgol (staff a
myfyrwyr) a'r cymuned. Mae'r manlynion eto i'w cwblhau, ond mae'n
debyg byddwn ni'n gweld mwy o ryngweithiad rhwng myfyrwyr, staff y
prifysgol a'r cymuned ehangach, a mwy o weithgareddau Cymraeg. Ac yn
mwyaf bwysig oll, bydd myfyrwyr dal gyda'r cyfle euraidd i fyw yng
nghanol y bwrlwm!
Byddwn
ni'n dathlu heno!!