Wel, ar ol yr holl dadleuon ambyti'r
drysfa newydd ar yr hen lle bowlio rhwng Morfa Mawr a Ffordd y
Gogledd, mae'r agoriad swyddogol wedi bod. Ac am ddiwrnod hyfryd! Er
gwaetha popeth ag oedd yn y Daily Mail, roedd pawb a ddaeth i'r
agoriad yn joio a chael hwyl. Roedd dros 20 o bobl yna am yr agoriad
swyddogol (dwi'n meddwl), ac roedd e'n wych gweld pawb yn gael
gymaint o hwyl. Ro'n i'n joio'r holl brofiad o deithio, fynd
ymhellach, fynd ar goll bach, wedyn mynd yn agosach, ac wedyn
cyrraedd y canol. Dw I pendant yn meddwl mai'r drysfa hon yn
ychwanegiad wych i Ward y Gogledd ac i Aberystwyth.
Un o'r pethau arall sydd yn wych am y
prosiect 'ma yw'r cylfeoedd i bywyd gwyllt: mae'r pystiau yn amlwg yn
boblogaidd gydag adar, ac mae planhigion wyllt yn tyfu rhwng y
llonnau yn barod.
Mae hwn wedi bod yn taith eitha hir a
dadleuol ar adegau, ond dwi'n meddwl mai'r canlyniad yn wych :)
Beth am mynd i weld (a cherdded) y
drysfa heddiw? Mae'n diwrnod godidog!
No comments:
Post a Comment