Mai argyfwng yng Ngheredigion parthed a
rhandiroedd. Ar hyn o bryd, mae 70 o bobl yng Ngheredigion ar y
rhestr aros i gael rhandiroedd, ac mae pobl yn aros am fwy na phum
mlynedd. Mewn oes lle mae materion amgylchedd yn fwy bwysig nag
erioed, ac mae prisiau bwyd yn codi'n gyflym tra i incwmau disgyn,
mae rhandiroedd yn gwneud fwy o synnwyr amgylcheddol ac ariannol nag
erioed.
Yn ogystal a hynny, mae yna pryderon am
gyflwr y rhandiroedd sydd eisoes ym Mhenparcau, yn sgil y llifogydd
llynedd.
Mae cynlluniau eraill wedi'u gosod yn
aml i ymdrin ag y problem hwn, ond cafwyd problemau. Cafwyd
wrthwynebiad cryf gan trigolion lleol ym Mhenparcau pan ceisiodd
Cyngor y Tref i sefydlu rhandiroedd newydd ymyl y sawl sydd yn bodoli
eisoes. Yn Waunfawr, mae'r maen tramgwydd oedd y cynllun datblygu
lleol. Hefyd, mae'n glir nad yw'r cyngor sir yn awyddus i sefydlu
rhandiroedd newydd; mewn ffaith maent yn awyddus i drosglwyddo
rhandiroedd sydd eisoes yn bodoli i gynghorau tref a chymuned, os
bosib, sydd yn fwy debyg o ennill grantiau ayyb.
Ond mae syniad newydd wedi codi, Mewn
cyfarfod pwyllgor rheolaeth gyffredinol Cyngor Tref Aberystwyth ar
noswaith 11/11/13, cyflwynwyd cynlluniau a ddyluniwyd ar y cyd gyda
Prifysgol Aberystwyth i sefydlu llawer o randiroedd newydd cyferbyn
PJM. Mae hynny'n ddatblygiad wych, sydd a'i wraidd yng ngofyniadau
gan myfyrwyr a staff am rhandiroedd. Gan mae'r bron iawn o fyfyrwyr
yma am dim ond tair flynedd, does dim pwynt i fyfyrwyr ymuno a rhestr
aros sydd yn fwy na pum mlynedd, fel y mae ar hyn o bryd! Os
adeiladir rhandiroedd, adeiladir tua 110 o randiroedd yn y lle
cyntaf, gyda phosibiliad o dua 150 arall os mae llawer o bobl yn
awyddus i gael rhandiroedd.
Mae'r potensial yma i ddarparu i lawer
fwy o bobl y cyfle i dyfu eu bwyd eu hunain, yn weddol lleol a gan
hynny i arbed llawer o arian hefyd. Os sefydlir y rhandiroedd hwn,
bydd yn bosib leihau'r rhestr aros yn sylweddol, ac bydd hynny'n wych
i'r dref yn gyffredinol :)
Nad yw'r cynllun heb eu heriau wrth
gwrs. Bydd y plotiau yn 50m sgwar, sydd yn weddol fawr ond yn llai na
rhai o'r rhandiroedd sydd eisoes yn bodoli ym Mhenparcau. Wrth gwrs,
ar y llaw arall, nad pawb sydd eisiau rhandiroedd o'r maint sydd ym
Mhenparcau! Hefyd, os arweinir y prosiect hwn gan Cyngor Dref
Aberystwyth, bydd weinyddu'r prosiect yn cymryd llawer o amser gan
staff y cyngor.
Ar y cyfan, yn hapus iawn, croesawyd yr
egwyddor o redeg rhandiroedd gan y cyngor dref. Y cam nesaf fydd
tacluso a gweithio ar y cais ariannol dros y prosiect. Gobeithio fe
welir rhandiroedd newydd yn Aberystwyth yn y dyfodol agos, yn gwneud
cyfraniad aruthrol i'r dref ac i'r byd.
No comments:
Post a Comment