20.1.14

Uno Cynghorau – Colli Iaith? (A sawl sylw arall)

Agor y cyfrifiadur bore ma, dwylo'n crynu, beth fydd canlyniad yr adroddiad Williams am uno cynghorau, yn neilltuol ambyti Ceredigion. Dwi'n trist fel 'ny, ac efallai dylse fi ffindo rhywbeth fwy cyffrous! Ond...
Mae'r prif awgrymiad, yn pendant ar ol y BBC, (http://www.bbc.co.uk/newyddion/25808987) yn cynnwys uno Ceredigion a Sir Penfro! Rhywbeth a do'n i fyth yn disgwyl; roedd llawer yn son am ail-enedigaeth yr hen awdurdodaeth Dyfed, gan uno Ceredigion, Sir Gar a Sir Benfro. Teimlwyd tro diwethaf bod yr awdurdodaeth hwn yn llawer rhy fawr, er enghraifft mae Aberystwyth yn bron a 50 milltir o Neuadd Cyngor Sir Caerfyrddin, lle cynhaliwyd y cyfarfodydd, a boddwyd llais Ceredigion fel sir sydd yn unigryw yng Nghymru. O dan y drefn newydd, mae'n edrych yn waeth efallai! Mae'r pencadlys Cyngor Sir Benfro yn Hwlffordd, sydd yn dros 60 milltir o Aberystwyth. Ar ol traveline Cymru, mae'n cymryd ar leia 2 awr 52 munud i deithio o Aberystwyth i Hwlffordd ar ddau bws. Yn fy nhyb i, mae gwleidyddiaeth lleol yn llai effeithiol pan mae'n bell o bobl lleol, ac hoffwn i weld llywodraethu'n mynd yn fwy lleol yn hytrach na mwy pell.

Ond o ran y Gymraeg, mae'r sefyllfa yn bregus iawn. Yn diweddar, mae ymdrechion wedi digwydd i gynyddu defnydd y Gymraeg yn y Cyngor Sir, ac roedd gobeithion mawr y bydd Ceredigion yn dilyn enghraifft Cyngor Sir Gwynedd a gwneud y Gymraeg yn iaith weinyddol y Cyngor Sir, hynny yw, gwneud eu gwaith i gyd yn Gymraeg ac wedyn danfon cyfathrebiadau allanol i'r cyfieithwyr i'w gwneud yn ddwyieithog. Yng Ngwynedd, cydnabyddir yn weddol eang mae hynny wedi gwneud lot i leihau'r cwymp yn siaradwyr Cymraeg, ac wedi cryfhau'r Gymraeg o amgylch Caernarfon, lle mae swyddfeydd y cyngor. Byddai hynny'n cam naturiol ac hynod o gymorthgar mewn sir lle mae argyfwng ieithyddol enfawr ond mae dal bron ag hanner y poblogaeth yn medru'r Gymraeg.
Ond yn Sir Benfro, mae dim ond 19% o'r boblogaeth yn medru'r Gymraeg. Wrth cyfrifo'r canran sy'n siarad Cymraeg yn yr awdurdodaeth newydd, gan ddefnyddio data o'r cyfrifiad 2011, mae 30% sy'n siarad Cymraeg:


Poblogaeth Nifer sy'n siarad Cymraeg Canran sy'n siarad Cymraeg
Sir Benfro 118,392 22,786 19.2%
Ceredigion 73,847 34,964 47.3%
Penfrodigion 192,239 57,750 30.0%
Tra'n deall mae 30% sy'n siarad Cymraeg dal yn nifer sylweddol, mae hynny'n codi pryderon arnaf, am ddefnydd yr iaith Gymraeg yn y cyngor. Gan dybio byddai gweithwyr y Cyngor yn efelychu'r poblogaeth ar ei chyfan, dwi'n meddwl mae'n debyg fe welwn ni llai o Gymraeg fel iaith weinyddol, gyda chanlyniadau negyddol i'r defnydd o'r Gymraeg ym mhob maes.

Perygl arall yw'r tueddiadau i ganoleiddio popeth, a'r tueddiad naturiol i'r bartner mwyaf mewn unrhyw 'perthyas' o'r fath i drio trefnu popeth ar ei thelerau ei hunain. Fel gwelir yn y bwrdd uwchben, mae Sir Benfro gyda llawer fwy o boblogaeth na Cheredigion, ac felly dwi'n meddwl mae'n debyg bydd y mwyafrif o'r uwch-swyddogion yn dod o Gyngor Sir Penfro, gyda'u holl hen arferau (gyda llaw, swn i ddim disgwyl yn gwahanol gan neb!), ac bydd yn naturiol iddynt trio cadw eu hadrannau yn Sir Benfro, lle mae nhw eisoes. Mae'n bosib byddai'r fath tueddiadau yn lleihau'r cyfleoedd yng Ngheredigion, yn yr ardaloedd Cymraeg ac yn arbennig yn Aberystwyth, tref a fydd ar y cyffuniau. Mae Aberystwyth wedi gweld buddion economaidd yn sgil y newid o'r drefn Dyfed i'r drefn Ceredigion, gan gynnwys sefydlu swyddfeydd y Cyngor ar Boulevard St Brieuc, ac fe fyddai'n drist petai ail-drefnu llywodraeth lleol yn peryglu hyn drwy symud “y canol” llawer pellach i ffwrdd.

Mae gan y ddau awdurdodaeth agweddau gwahanol tuag at addysg hefyd. Dim ond tuag wythnos yn ol, gwrthododd Cyngor Sir Benfro agor ail ysgol Gymraeg uwchradd yn y sir http://www.golwg360.com/newyddion/addysg/133941-sir-benfro-dim-cytundeb-ar-ysgol-uwchradd-gymraeg-newydd Ar hyn o bryd, mae disgwyl i bobl ifanc yn ne Sir Penfo teithio i Ysgol y Preseli yng ngogledd y Sir. Mae hynny'n hollol gwahanol i'r trefniadau yng Ngheredigion, lle mae sawl ysgol Cymraeg Uwchradd wedi gweithredu'n buddiol iawn ers blynyddoedd, ac lle mae'r ysgol uwchradd Saesneg yw'r eithriad. Mae angen sicrhau felly na fydd dylanwad polisiau addysg Sir Benfro yn effeithio'n negyddol ar Ceredigion.

Nid dyna'r unig tro mewn wythnosau diwethaf i Gyngor Sir Benfro cyrraedd y pennawdau am y rhesymau anghywir. Yn ol Golwg360 (http://www.golwg360.com/newyddion/cymru/134353-dim-angen-cymraeg-swyddi-gofal), fe gyhoeddiwyd tudalen we ag oedd yn pwysleisio: Dyw Cymraeg ddim ond yn cael ei siarad fel iaith gyntaf mewn rhai rhannau o ogledd Sir Benfro. Iaith fewnol y cyngor yw Saesneg, felly does dim angen poeni os nad ydych chi’n ddwyieithog.” Mae'r fath agweddau yn neud i rywun teimlo'n hynod o anghyffyrddus, yn arbennig gan mai llawer o sylw wedi bod yn ddiweddar am pwysigrwydd y Gymraeg mewn gofal cymdeithasol.

Felly, sut mae'r adroddiad yn trin y Gymraeg? Wrth ddarllen rhannau ohono fe, mae'r agwedd yr adroddiad i'r Gymraeg yn addo'n addewidol, er enghraifft ar tudalen 96 mae'n dweud:
“Rydym wedi bod yn arbennig o ystyriol i faterion sy'n ymwneud â'r iaith Gymraeg.
Pwysodd sawl un o'n hymatebwyr arnom i gynnig ffiniau sy'n adlewyrchu ac yn
cynnal defnydd cyhoeddus o'r Gymraeg yn ogystal â'r defnydd o'r iaith fel cyfrwng
ar gyfer bywyd dinesig a threfniadau gweinyddol. Credwn fod pob un o'r opsiynau
a gynigir gennym yn gwneud hynny;”
Mae hynny'n swnio'n addewidiol iawn; ond sut mae hynny'n gymharu a sefyllfeydd Ceredigion a Sir Benfro? Defnydd o'r iaith fel cyfrwng ar gyfer bywyd dinesig – fel a gwelwyd yn barod mae'r canran sy'n siarad Cymraeg yn Sir Benfro yn llawer llai nag yng Ngheredigion. Mae'r enghreifftiau uchod o gweithredau a geiriau Cyngor Sir Benfro yn awgrymu mai llawer llai o ddefnydd y Gymraeg yn defnydd o'r iaith fel cyfrwng ar gyfer trefnidadau gweinyddol: fel maent eu hunain yn dweud, “Iaith fewnol y cyngor yw Saesneg...” Ond yng Ngheredigion, mae llawer mwy o Gymraeg yn cael ei defnyddio yn nhrefniadau gweinyddol (er dim digon yn fy marn i).
Felly codir y cwestiwn: sut mae'r argymhelliad i uno Ceredigion a Sir Benfro yn cyfateb ag yr ystyriaethau o'r Gymraeg sydd ar dudalen 96?

Ar y cyfan, mae angen llawer fwy o ystyriaeth o faterion Cymraeg cyn uno unrhyw cynghorau. Mae'n hefyd yn rhyfedd fod y pwyslais wedi bod ar uno unedau mae llywodraeth Cymru yn cyhuddo o ryw fath o fethiant (gan y ffaith eu bod yn ail-strwythuro). Ers sbel, mae San Steffan a Cynulliad Cymru wedi rhannu Sir Penfro yn eu hanner gan wahanu'r rhan fwy Cymraeg a'r rhan fwy Saesneg. Ac mae'n werth cofio cyn 1997 roedd 'na sedd yn San Steffan i Ceredigion a Gogledd Penfro. Efallai byddai werth i uno sawl ardal Cymraeg o amgylch Canolbarth a gorllewin Cymru gyda Cheredigion i greu cyngor sir i gadarnleoedd Cymraeg y de-orllewin, a fydd, gobeithio, weithredol Cymraeg, ar leiaf i raddau helaeth. Mae Adam Price hefyd wedi awgrymu un cyngor mawr i'r gorllewin – Arfor – a fyddai'n gallu tynnu cymunedau Cymraeg at eu gilydd a lledaenu ymarferion da, drwy gynnwys Gwynedd, ac i lunio polisiau dros y Gymraeg i'r Fro Gymraeg. (http://www.adfywio.plaidcymru.org/uploads/Arfor_Cymraeg_Final.pdf) Yn sylweddol, roedd hynny'n eithrio Sir Benfro, er awgrymodd rhai y gallai Preseli ymuno efallai. Byddai'r syniad Arfor hefyd yn rhoi Aberystwyth yn eitha canolog: pan oedd Dyfed yn cyngor, roedd 'na tueddiad i'r buddsoddiadau ayyb mynd i'r de, a chafodd y canolbarth ei hanghofio. Gwelir hynny hefyd gyda'r canoleiddio sydd yn digwydd yn ymddiriolaeth iechyd Hywel Dda, gyda pheryglon ac israddio yn aml yn Ysbyty Bronglais. Pryderaf mai dyma fydd dyfodol Ceredigion, ac yn arbennig Gogledd Ceredigion, petai sir/siroedd i'r dde yn dominyddu weinyddiaeth llywodraeth lleol yma. Mae Alun Williams wedi bogio'n wych ar y pwnc hwn (http://bronglais.blogspot.co.uk/2014/01/wales-needs-middle.html)

Yn sicr, mae angen llawer fwy o ystyriaeth ar anghenion ieithyddol ac economaidd Ceredigion cyn neidio mewn i unrhyw ail-strwythuro.

No comments:

Post a Comment