Wel, mae'r amser yn hedfan ac mae'r
etholiadau ewropeaidd bron ag wedi cyrraedd. Ar ol y polau diwethaf,
yn dibynnu'n fawr faint o bobl wnaiff bleidleisio, mae dim ond
ychydig o bleidleisiau yn gallu penderfynu cystadlaeth tri-ffordd
rhwng Plaid Cymru, Llafur a'r Ceidwadwyr
http://www.clickonwales.org/2014/05/polling-trends-show-ukip-still-on-the-rise/
Efallai dyma beth wyt ti'n disgwyl o
gynghorydd Plaid Cymru, ond dw i wedi bod yn treulio llawer gormod o
fy amser yn mynd o gwmpas Aberystwyth a Cheredigion yn canfasio a
dosbarthu taflenni i annog pobl i bleidleisio dros Blaid Cymru. Dyma
ychydig o'r resymau pam:
Rhoi Cymru'n Gyntaf: Dim ond Plaid
Cymru sydd yn rhoi Cymru'n gyntaf bob tro. Dim ond Plaid Cymru sydd
yn atebol yn unig i bobl Cymru. Mae Jill Evans wedi gwthio'n galed
iawn i roi Cymru ar y map am fuddsoddiad, cymorth a rhaglenni
cymdeithasol.
Gweithredu ar Newid Hinsawdd: Mae Jill
Evans wedi bod ar flaen y gad yn galw am fuddsoddiad yn ynni
adnewyddadwy. Mae hi hefyd wedi bod yn llais gryf dros wahardd
ffracio nes wyddir y canlyniadau amgylcheddol ac iechyd o'r broses.
Mae Plaid Cymru yn eistedd yn y grwp Gwyrddiad-EFA yn Ewrop, gyda
phleidiau werdd a phleidiau sydd eisiau rhyddhau gwledydd bach ar
draws Ewrop, ac maent yn parchu hi gymaint bo hi'n is-gadeirydd y
grwp! Mae'r graffig hwn
http://www.caneurope.org/resources/doc_view/2384-united-kingdom-meps-and-parties-scorecard-2014
yn dangos mae Plaid Cymru sydd wedi gwneud y mwyaf ar newid hinsawdd
(mwy nag y Plaid Werdd!) ar ol y Climate Action Network Europe.
Adfer y Gymraeg: Dim ond Plaid Cymru
sydd am weld yr Iaith Gymraeg yn ffynu ym mhob maes. Dim ond Plaid
Cymru sydd yn galw i neud y Gymraeg yn iaith swyddogol yn yr Undeb
Ewropeaidd.
http://www.plaidcymru.org/newyddion/2014/05/21/dim-ond-plaid-cymru-fydd-yn-hybur-iaith-gymraeg-yn-ewrop/
Mae gwneud yr Wyddeleg yn iaith swyddogol yn yr Undeb Ewropeaidd
wedi ychwanegu at hyder siaradwyr Gwyddeleg ac wedi helpu i gynyddu
defnydd yr Wyddeleg yn Iwerddon. Bydd Jill Evans yn parhau i frwydro
dros gyllid a chymorth a seilwaith a pholisiau i annog datblygiad
economaidd mewn ardaloedd Gymraeg (a phob man yng Nghymru) er mwyn
darparu cyfleoedd i siaradwyr Cymraeg aros yn eu cymunedau a
chyfrannu at ddyfodol yr Iaith
Dyma lle aiff fy mhleidlais yfory. Ac
bydda i'n lan yn gynnar i ddosbarthu mwy o daflenni yn y bore