Gan ddilyn y trafodaethau am y refferendwm ar aelodaeth o’r
Undeb Ewropeaidd yn y Cyngor Llawn nos Fawrth, gallaf ddatgan fy mod i wedi dod
o hyd i lawysgrif yn y Llyfrgell Genedlaethol sydd yn canitáu i Aberystwyth
cael ei pholisi tramor ei hunain, gan gynnwys cytundebau rhyngwladol. Mae hyn
yn cyffrous iawn i’r dref, o ran ei hanes ac hefyd o ran ei dyfodol
Yn y cyfarfod Cyngor nesaf, byddaf yn gosod cynnig i
Aberystwyth datgan ei hannibynniaeth o’r Deyrnas Unedig petai pleidlais o blaid
adael yr Undeb Ewropeaidd. Mae hyn yn dilyn y canfyddyddiadau mai Ceredigion,
ac yn penodol Aberystwyth, yw’r lle mwyaf cefnogol i’r Undeb Ewropeaidd yn y
DU.
Dw i hefyd o blaid i ni ymuno â’r cytundeb Schengen, sydd yn
caniatáu rhyddid i symud o gwmpas yr Undeb Ewropeaidd heb angen pasbort. Er
byddai angen pasbort i fynd tu allan i Aberystywth o dan y fath system, mi
allem ni atgyfodi’r hen tollborthau: Southgate, Northgate ac ati; bydd gwirio
pasbortau’n darparu cyflogaeth. Bydd Wetherspoons yn troi’n swyddfa Customs ar
gyfer pobl sydd yn cyrraedd ar y trenau.
Gellid ofyn sut mae pobl o Aberystwyth yn gallu teithio’n
rhydd i’r Cyfandir os oes rhaid mynd drwy'r DU? Ond mae gennyf cynlluniau
cyffrous iawn am hyn...
Beth am “zip-wires” o dop y Graig Glais i Lydaw, Iwerddon,
Ynys Manaw yr Alban a Chernyw? Mae syniadau o'r fath wedi ennyn cryn gefnogaeth gan drigolion y dref. Os godwn ni’r praesept digon, efallai gellid
adeiladu un i Wlad y Basg hefyd.
Hefyd, mae gynnom clwb rwyfo gwych yn Aberystwyth, sydd yn
rhwyfo i Iwerddon yn rheolaidd fel rhan o’r Celtic Challenge. Mae fy
nghyd-gynghorydd tref Steve Davies a’i ffrindiau wedi cynnig rhoi lifftiau i
bobl ar draws y Môr Geltaidd – caredig iawn!
Mae hyn yn cyfnod cyffrous iawn. Yn y tymor hir, hoffwn i
weld Aberystwyth yn dod yn wlad annibynnol a dilyn ôl-troedion Llanrwst gan geisio am aelodaeth o’r
Genhedloedd Unedig.
No comments:
Post a Comment