Mae Cyngor Tref Aberystwyth wedi bod yn gosod llawer o goed o gwmpas y dref yn y blynyddoedd diweddar: ond mae'r Cynghorydd Jeff Smith yn cyflwyno syniad cyffrous newydd.
Mae'n bwysig fod pobl yn gweld buddion y coed mewn pob ffordd posibl, ac mae hyn yn gallu cynnwys cynnyrch. Felly mae'r Cynghorydd Smith yn awyddus i blannu coed spaghetti rhwng y postiau ar hyd Labyrinth Ffordd y Gogledd
Bydd sesiynau'n cael eu trefnu i'r cymuned leol dod i dynnu spaghetti o'r coed, ac wedyn bydd y spaghetti yn mynd mewn i grochan mawr. Bydd 2 crochan arall yn berwi saws bolognese llysieol a saws bolognese gyda chig, yn barod at arddwest cymunedol enfawr.
Am fwy o fanylion am dyfu spaghetti, gweler: https://www.youtube.com/watch?v=tVo_wkxH9dU
No comments:
Post a Comment