Y Cynghrair Cymunedau Cymraeg
Wrth cwotio Saunders Lewis eto i gyd,
roedd canlyniadau'r cyfrifiad diwetha yn sioc ac yn siom i'r rheini
ohonom sy'n ystyried nad Cymru fydd Cymru heb yr iaith Gymraeg.
(Tynged yr Iaith, 1962, BBC.) Rwyf wedi cyfeirio yn fy mhost diwethaf
at y canlyniadau yng Nghymru, Ceredigion ac Aberystwyth. Un o'r
pethau mwyaf synhwyrol oedd y ffaith bod y cwymp wedi digwydd o dan y
drefn newydd datganoledig. Ymddengys yn glir felly mae angen
weithredu dros yr iaith yn lleol yn ogystal ag yn cenedlaethol.
Dyna un o'r syniadau sydd yn arfer ers
sbel yng Ngwlad y Basg. Yno, mae 'na sefydliad o'r enw UEMA sydd yn
casgliad o grwpiau, sefydliadau a chynghorau lleol, sydd yn gweithio
gyda'u gilydd i rannu profiadau, lobio cyrff eraill ag i wella'r
sefyllfa ieithyddol yn eu hardaloedd. Sefydlwyd y rhwydwaith hyn yn
1991, ac ers hynny mae'n wedi tyfu i gwmpasu llawer o gynghorau a
mudiadau lleol ledled Gwlad y Basg. Mae'n gwych i weld mae'r
ystadegau o siaradwyr yr Iaith Basg wedi tyfu o 22.3% yn 1991 i 27%
yn 2011!
Syniad gwych felly oedd sefydlu
rhwydwaith o'r fath yng Nghymru i hybu'r Gymraeg. Mae'r Cynghrair
Cymunedau Cymraeg yn drio gwneud hynny, ac mae amrywiaeth o
sefydliadau a mudiadau o draws Cymru wedi ymuno hyd yn hyn.
Cynhaliwyd cyfarfod gyntaf y Cynghrair
yn Aberystwyth yn mis Ionawr, yn sgil cyhoeddiadau y canlyniadau y
cyfrifiad, lle trafodwyd amrywiaeth o bynciau, o herio'r drefn
cynllunio i sut i groesawu a chymhathu dysgwyr yn well i sut i dyfu
economiau ardaloedd Cymraeg i sut i gryfhau cysylltiadau rhwng
ardaloedd gwahanol o'r Fro Gymraeg.
Egwyddorion y Cynghrair yw'r canlynol:
1. Trwy’r Cynghrair gallwn gydweithio er mwyn creu ymwybyddiaeth
genedlaethol o’r realiti nad oes dyfodol i’r Gymraeg heb yr
ardaloedd hynny lle mae’n dal yn iaith fyw.2. Trwy’r Cynghrair gallwn gydweithio i addysgu mewnfudwyr a’u cymhathu fel bod modd iddynt gyfoethogi ein cymunedau.
3. Gallwn annog cydweithrediad cymdeithasol, economaidd a diwylliannol rhwng y cymunedau hynny sy’n rhan o’r cynghrair.
4. Gallwn gydweithio er mwyn sicrhau fod y drefn gynllunio yn gwasanaethu ein cymunedau.
5. Gallwn sicrhau fod pob cymuned yng Nghymru yn gwireddu ei photensial ac y byddwn yn gweld cynnydd yn y canrannau fydd yn siarad Cymraeg.
6. Gallwn gyd-ymgyrchu i sicrhau fod gan bawb yn ein cymunedau yr hawl i gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg.
7. Gallwn sicrhau fod anghenion addysgol ein cymunedau yn cael eu gwireddu.
8. Anelwn am wneud y Gymraeg yn iaith naturiol bywyd pob dydd.
9. Rhaid sicrhau fod ein Cynghorau Sir a Chymuned a sefydliadau eraill yn gweithredu trwy’r Gymraeg.
10. Cydweithiwn i herio grym y farchnad rydd sydd yn tanseilio ein bywydau a mynnwn fod yr economi yn cryfhau’n cymunedau.
Wedi i mi gyflwyno'r syniad o ymuno i'r
Gyngor Dref, dwi'n falch o ddweud, ar ol i'r cyngor pleidleisio o
blaid ymuno ag y Cynghrair, mae Cyngor Tref Aberystwyth bellach yn
aelod o'r Cynghrair, ac yn ymuno a gynghorau cymuned 'Sgubo'r Coed
(ymyl Borth) a Thre' Caerfyrddin. Gobeithio gweld mwy o gynghorau yn
ymuno fel mae modd adeiladu mudiad sydd yn gweithredu o'r gwreiddiau
i hybu'r Gymraeg ym mhob cymuned yng Nghymru. Mae'r mudiad hon yn
cyfle gwych i bawb gweithio gyda'u gilydd i sicrhau mwy o weledigaeth
i'r Gymraeg ac fwy o hawliau i'w siaradwyr (a, gobeithio, mwy o
siaradwyr hefyd!)
Am fwy o wybodaeth, dyma wefan y
Cynghrair: www.cymunedau.org