Yng Nghymru, fel dywedwyd llawer gwaith, mae'r canran siaradwyr Cymraeg wedi disgyn yn sylweddol dros y deng mlynedd diwetha (2001-2011, ar ol y cyfrifiad), o 20.8% i 19.0%; ond mae'r niferoedd o siaradwyr wedi disgyn yn lot llai: o 582,368 i 562,016. Y rheswm pam fod y cwymp canran yn mor fawr felly oedd, yn fawr, o ganlyniad twf yn y poblogaeth, ac roedd llawer o hwn o achos y nifer o bobl sydd yn symud i Gymru. Dwi'n un ohonynt! Ond yn sgil y cwymp mewn termau canran, mae angen sefydlu strwythyrau i warchod a thyfu'r iaith ag i gynorthwyo pobl i siarad/ddysgu mwy o Gymraeg yn eu bywydau dydd i ddydd.
Yng Ngheredigion hefyd, mae'r canran wedi disgyn llawer o 52% lawr i 47.3%, ond yn yr achos hon mae llawer llai o siaradwyr: o 37,918 lawr i 34,946: colled sylweddol yn niferoedd yn ogystal a ganrannau. Roedd na dwf o ryw mil yn y poblogaeth hefyd (lot llai ag oedd llawer o bobl yn ddisgwyl). Twf poblogaeth yn Aberystwyth oedd yn fwy na hwn, sydd yn ystyru lleihad yn poblogaeth gweddill y sir.
Yn Aberystwyth, dyma'r stori, ward wrth ward. Hyd y gwn i, does neb arall wedi dadansoddi'r ystadegau yma ar blog. Ac mae'n nhw'n bach o anhygoel weithiau!
Ward y Gogledd (bron iawn o'r ward rhwng Morfa Mawr a Bryn Penglais; hefyd y prom fyny at Neuadd y Brenin)
Blwyddyn |
Nifer o Siaradwyr |
Nifer o drigolion |
Canran |
2011 |
613 |
2618 |
23.4% |
2011 |
608 |
1931 |
31.5% |
Ward y Canol (lot o'r ardal rhwng Morfa Mawr, Heol y Wig ac i'r ddwyrain ar hyd y rheilffordd nes y bont cerddwyr)
Blwyddyn |
Nifer o Siradwyr |
Nifer o drigolion |
Canran |
2011 |
652 |
2447 |
26.6% |
2001 |
614 |
2149 |
28.6% |
Ward Bronglais (ochr y ddwyrain, rhwng
Bryn Penglais a Plascrug)
Blwyddyn |
Nifer o Siradwyr |
Nifer o drigolion |
Canran |
2011 |
745 |
2041 |
36.5% |
2001 |
817 |
1904 |
42.9% |
Ward Rheidol (i'r dde o'r dref, hyd at
ddechrau Penparcau)
Blwyddyn |
Nifer o Siradwyr |
Nifer o drigolion |
Canran |
2011 |
819 |
2686 |
30.5% |
2001 |
836 |
2404 |
34.8% |
Blwyddyn |
Nifer o Siradwyr |
Nifer o drigolion |
Canran |
2011 |
1095 |
3005 |
36.4% |
2001 |
1180 |
2979 |
39.6% |
Aberystwyth dref cyfan
Blwyddyn |
Nifer o Siradwyr |
Nifer o drigolion |
Canran |
2011 |
2829 |
9792 |
28.9% |
2001 |
2875 |
8388 |
34.3% |
Blwyddyn |
Nifer o Siradwyr |
Nifer o drigolion |
Canran |
2011 |
3924 |
12979 |
30.7% |
2001 |
4055 |
11367 |
35.7% |
Fel y gwelwn ni, does dim lot llai o
siaradwyr Cymraeg yn Aberystwyth nag yn 2001, ond mae'r canran wedi
disgyn gan dros 5 pwynt canran; mae'r stori yn debyg gyda Aberystwyth
& Penparcau hefyd. Hynny oherwydd twf yn y poblogaeth. Ymddengys
effaith y twf hwn yn Ward y Gogledd er enghraifft (fy ward fy hunan),
lle mae nifer o siaradwyr Cymraeg wedi codi ond y canran sydd yn
medru'r Gymraeg wedi disgyn gan dros 8 pwynt canran! Gwelwn yr un
beth trwy Aberystwyth a Phenparcau: mae nifer o siaradwyr Cymraeg yn
aros yn weddol gyson, ond mae'r canrannau yn disgyn yn sylweddol.
Mewn ffordd, mae'n enghraifft (lot) fwy eithafol o'r hyn sydd yn
digwydd yng Nghymru ar eu cyfan.
Cwestiwn sydyn:
Cwestiwn: A ydy'r sefyllfa yn
anobeithiol?
Ateb: Ydy, os fynnwn ni.
(Tynged yr Iaith, Saunders Lewis, 1962.
BBC.)
Beth ydy hynny'n ystyru?
A ddylid anwybyddu Aberystwyth ar sail
ei heithriadolrwydd? Mae'r hogyn o Rachub wedi awgrymu fan ma
http://rachub.blogspot.co.uk/2013/01/heb-fangor-heb-aber-heb-gaergybi-heb.html
mae'r ystadegau am y siroedd sydd yn cael eu hystyried fel
cadarnleoedd y Gymraeg yn edrych yn well petaech chi'n ystyru nhw heb
y dref fwyaf: Sir Fon heb Caergybi, Gwynedd heb Bangor, Ceredigion
heb Aberystwyth, Sir Gar heb Llanelli. Dwi'n tueddu o anghytuno
gyda'r fath dadansoddiad yn gyfan gwbl, ar sail does 'na dim ofni'r
ffaith mai Aberystwyth yng Ngheredigion, oherwydd mai unwaith yr ydym
yn gadael rhyw ardal i fynd bydd y gweddill yn debyg o ddilyn yn
fuan, oherwydd mae Aberystwyth yn lle ganolog i bobl o draws rhannau
fawr o gefn gwlad Ceredigion ac felly mae'n ffol credu fod modd
gwahaniethu rhwng Aberystwyth a Ceredigion, ac wrth gwrs er lles
Aberystwyth a'u trigolion - mae cymdeithas Cymraeg cryf a byrlymus
yma na ddylid ei hanwybyddu: bydd yn ofnadwy o drist anwybyddu'r
gymaint o gyfraniad mae Aberystwyth yn wneud i'r iaith Gymraeg.
Ond, ta waeth, 'nawn ni sbio at yr
ystadegau.
Blwyddyn 2011 |
Nifer o siaradwyr |
Nifer o drigolion |
Canran |
Ceredigion |
34964 |
73847 |
47.3% |
Ceredigion heb Aber & Penp. |
30909 |
62480 |
49.5% |
Mae'n hawdd gweld fod yr iaith Gymraeg
bellach yn iaith lleiafrifol yng Ngheredigion hyd yn oed os
anwybyddwn Aberystwyth a Phenparcau.
Felly does dim ofni'r gasgliad mai
dyfodol yr iaith Gymraeg yn Aberystwyth yn hynod o bwysig. Mae'n
dilyn, felly, mae angen gweithredu drosti. Mae angen weithredu er
mwyn cryfhau'r cymdeithas Cymraeg sydd gynnom ni, er enghraifft trwy
sicrhau mwy o gyfleoedd i siaradwyr Cymraeg defnyddio'r iaith. Mae
angen atal llifoedd o ieuenctid Cymraeg allan o'r Fro Gymraeg trwy
gryfhau economiau lleol. Mae angen helpu mwy o bobl i siarad/dysgu
mwy o Gymraeg, gan mae llawer sydd yn eisio dysgu'r iaith ond ddim
wedi cyrraedd y nod hwn eto. Mae angen codi status ac weledigaeth y
Gymraeg er mwyn cyfrannu at yr amcanion uwchben.
Fel cynghorydd dref, dw i methu datrys
yr holl sefyllfa fy hunan, ond dwi'n gallu cyfrannu, ac yn y post
nesaf, bydda i'n esbonio beth dw i newydd wedi gwneud yn y Cyngor
Dref dros y Gymraeg.
Ystadegaethau i gyd o www.neighbourhood.statistics.gov.uk
No comments:
Post a Comment