Roedd
Sul y Cofio eleni’n un hanesyddol iawn. Am y tro cyntaf, roedd y prif seremoni
yn cynnwys y pabi gwyn yn ogystal â’r pabi coch. Mae hyn yn dilyn trafodaethau
calonogol iawn rhwng grŵpiau heddwch a’r Lleng Brydeinig Frenhinol (Ll.B.F.),
lle cafwyd cytundeb da iawn rhyngddynt.
Mae’r
pabi gwyn wedi bod yn traddodiad ers y 1930au, ac fe’i chychwynwyd i gofio pawb
a fu farw/ dioddef mewn rhyfeloedd, yn ogystal â chyfleu neges glir o heddwch.
Mae’r rhesymeg yn glir: pe waredir ar ryfel, gwaredir ar y dioddefaint sy’n
canlyniad i ryfel. Mae’n werth nodi hefyd mae’r mwyafrif helaeth o ddioddefwyr
ryfel erbyn heddiw yn sifiliaid, sydd yn wahanol iawn i’r sefyllfa yn y rhyfel
byd gyntaf. Felly mae nifer o bobl yn teimlo fod angen ehangu coffáu drwy
wisgo/osod pabi gwyn, yn aml yn ogystal a’r un coch. Mae’r dyfyniad canlynol
gan ymgyrchwr heddwch, Pat Richards , yn amlinelliad da iawn o’r rhesymeg tu ôl
y pabi gwyn a sut mae’n cyd-fynd a’r pabi coch.
“Mae gen
i pabi coch i gofio marwolaeth dau hen ewythyr. Bu un yn farw yn llaid
Paschendale, a’r llall yn yr Aifft ar 10fed mis Tachwedd 1918 wedi ymladd drwy’r
rhyfel i gyd. Mae’r un gwyn rwy’n gwisgo, wastad yn dod a ffrind fy Mam i’m
meddwl. Bu’r 2 menyw ifanc yn nyrsys yn Llundain yn ystod y Blitz, fe laddwyd
ffrind fy Mam wrth iddi helpu’r cleifion i gyrraedd y cysgodfeydd.”
Trwy’r
degawdau mae torchau gwyn wedi cael eu gosod wrth y Senotaph yn Llundain yn aml,
ac mae torchau gwyn yn cael eu gosod ar bwys y rhai coch mewn sawl tref ar
benwythnos y cofio. Yn Aberystwyth, mae’r Cyngor Tref wedi gosod torch gwyn yn
ogystal a thorch coch bob blwyddyn ers 2004, ac mae sawl grŵp heddwch wedi gosod
torchau gwyn hefyd, gan gynnwys Rhwydwaith Heddwch a Chyfiawnder Aberystwyth,
Côr Gobaith a Menywod mewn Du. Serch hynny, tan eleni mae’r rhain wedi cael eu
gosod mewn seremoni ar wahan, ar y dydd Sadwrn neu tua 1yp ar y dydd Sul.
Dw i
wedi mynychu’r ddau seremoni bron a bob blwyddyn ers i mi gael fy ethol fel
Cynghorydd Tref, ac dw i wedi sylwi ar faint sydd gan y seremoniau mewn
cyffredin. Mae’r ddau yn nodi a chofio canlyniadau erchyll rhyfel, ac maent yn
dawel, parchus ac yn teimladwy. Felly pan daeth y Ll.B.F. a’r grŵpiau heddwch
at eu gilydd, mewn cyfarfod a gadeiriwyd gan y Cyngor Tref, i gytuno i gyfuno’r
ddau seremoni o 2015 ymlaen, mi o’n i’n hapus dros ben.
Gosododd
y Maer y torch coc, a gosododd y Dirprwy-Faer y torch gwyn. Yn y llun, dyma nhw
(Endaf Edwards ar y chwith a Brendan Sommers ar y de) yn dal y torchau cyn
dechrau’r gorymdaith. (llun: Cyng. Alun Williams)
Bu’r
Cyngor yn archebu torch pabi coch arferol o’r Ll.B.F. O ran y torch gwyn,
archebwyd sawl pabi gwyn o Gymdeithas y Cymod, ac mi wnaeth Columbine, y siop
blodau ar Stryd y Ffynnon Haearn, cyfuno nhw mewn torch. Mae safon y torch yn dda
iawn. O fy rhan i, finnau a ddyluniodd ac argraffodd y cerdiau a’r cefn i’r
torch coch. Mae rhaid dweud, do’n i ddim yn sylwi pa mor amlwg fyddai’r rhain
mewn sawl llun ar draws y cyfryngau a’r cyfryngau cymdeithasol!
Yn y
seremoni gosod torchau ar ôl y cyfnod o ddistawrwydd, gosodwyd yr holl torchau
ar risiau’r Cofeb Ryfel un wrth un, beth bynnag eu lliwiau. Gosodwyd un porffor
gan gamgen lleol o Gymorth i Anifeiliad: mae hyn i gofio anifeiliad a fu farw
tra’n gwasanaethu mewn rhyfeloedd.
(Gosod torch gwyn ar risiau'r Cofeb Ryfel yn y seremoni gosod torchau. Mae nifer fawr o dorchau coch hefyd yn amlwg, ac mae torchau'r Cyngor Tref yn y cornel top-chwith o'r llun. Llun: Cyng. Alun Williams)
Tynnwyd
y torchau i gyd ychydig o amser ar ôl eu gosod eleni, i’w gwarchod rhag y
gwyntoedd cryf iawn sydd ar y dydd sul a’r dydd llun, ond gobeithio byddant yn
cael eu hail-osod yn fuan. Roedd yn diwrnod parchus a theimladwy, a gobeithio
bydd y trefniant hyn yn parhau i gyfoethogi’r dref yn y blynyddoedd i ddod.
No comments:
Post a Comment