Yr wythnos hon, gosodwyd plac ar Bont Trefechan i goffáu
protest mawr gyntaf Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ym 1963. Fel Cynghorydd, des i
â’r pwnc i’r Cyngor Tref, trefnais y plac ac rwy’n falch iawn bod y plac
bellach ar y Bont.
Hanes y Protest
Roedd y protestiadau cyntaf ym 1963 yn trobwynt yn hanes yr
Iaith Gymraeg, ac yn wir, trobwynt yn hanes Cymru. Ar ôl cynnal protest i drio
cael taflenni ac ati yn Gymraeg yn Swyddfa Post Aberystwyth, bu degoedd o bobl
yn blocio’r traffig ar y bont, gan ennyn sylw genedlaethol.
(llun: casgliad y werin)
Ers hynny, mae’r Bont wedi dod i symboleiddio’r brwydr dros
hawliau i siaradwyr Cymraeg, brwydr sydd wedi dwyn ffrwyth mewn sawl maes megis
arwyddion ffyrdd, radio, teledu, gwasnaethau a thaflenni Cymraeg gan gyrff
cyhoeddus, addysg cyfrwng Cymraeg ac ati (er mae dal llawer o bethau eto i
ennill!)
Gan hynny, mae’r Bont wedi dod yn eicon genedlaethol ac mae
llawer o ymdrechion i gofio’r protest gwreiddiol. Er enghraifft bu nifer fawr o
bobl yn ail-greu’r protest dwywaith yn 2013, unwaith fel protest go iawn ac
unwaith fel rhan o ddrama Y Bont.
(llun: nativehq.com
Placiau
Gosodwyd y plac gyntaf ar y Bont gan Gymdeithas yr Iaith
Gymraeg yn yr 1980au, ond mi ddaeth i lawr – ni wyddys yn union sut ond mae
sawl un yn pryderu mae casineb oedd tu ôl i hyn. Gosodwyd yr ail blac gan
Gyngor Tref Aberystwyth yn 2004.
Yn anffodus, cefais wybod ar noson 31 Awst 2015 bod y plac
wedi dod i lawr o wal y Bont ac wedi chwalu ar y llawr. Roedd aelod o’r cyhoedd
eisoes wedi rhoi gwybod i’r Heddlu, ac es i weld y safle tua canol nos.
Y diwrnod nesaf, bu rhaid i mi gasglu’r plac o’r Gorsaf
Heddlu mewn siwtcês!! Dywedodd yr Heddlu eu bod o’r barn bod e’n damweiniol;
bod y sgriwiau wedi rhwdni trwy, roedd y plac wedi disgyn, roedd rhywun wedi
trio cludo’r plac yn ôl ac buodd yn disgyn eto a chwalu. Yn anffodus, des i’r
casgliad nid oedd modd ei drwsio.
Y Trydydd Plac
Rhoes i cynnig gerbron y Cyngor i ni prynu plac newydd o’r
un fath a chynnal digwyddiad dadorchuddio. Dywedais bydd rhaid i’r plac cael 6
sgriw, o ddeunydd na fydd yn rhwdni, yn hytrach na 2, er mwyn sicrhau bydd y
plac yn aros yn ei le. Pasiwyd y cynnig: hwrê!! Ar ôl archebu’r plac, cefais
cyfarfod safle dydd Gwener gyda Paul James o James Memorials, Llandre ac erbyn
dydd Mercher yma roedd y plac fyny yn ei le!!
Dwi’n teimlo bod hyn wedi ychwanegu llawer at y dref. Mae placiau
yn hwb mawr i gofio ac yn rhoi gwybod i bobl am faint o hanes sydd yn y dref.
Mae nhw hefyd yn da iawn ar gyfer ymwelwyr a thwristiaid, ac maent yn edrych yn
smart iawn. Mae’n hollol priodol dylid nodi rhywbeth mor tyngedfennol a phwysig
sydd wedi digwydd fan hyn yn Aberystwyth.
No comments:
Post a Comment