28.2.13

Canlyniadau'r Cyfrifiad - Aberystwyth & Penparcau

Dyla i wedi ysgrifennu'r post hwn rhai misoedd yn ol, ond nes i anghofio neud! Ta waeth...



Yng Nghymru, fel dywedwyd llawer gwaith, mae'r canran siaradwyr Cymraeg wedi disgyn yn sylweddol dros y deng mlynedd diwetha (2001-2011, ar ol y cyfrifiad), o 20.8% i 19.0%; ond mae'r niferoedd o siaradwyr wedi disgyn yn lot llai: o 582,368 i 562,016. Y rheswm pam fod y cwymp canran yn mor fawr felly oedd, yn fawr, o ganlyniad twf yn y poblogaeth, ac roedd llawer o hwn o achos y nifer o bobl sydd yn symud i Gymru. Dwi'n un ohonynt! Ond yn sgil y cwymp mewn termau canran, mae angen sefydlu strwythyrau i warchod a thyfu'r iaith ag i gynorthwyo pobl i siarad/ddysgu mwy o Gymraeg yn eu bywydau dydd i ddydd.
Yng Ngheredigion hefyd, mae'r canran wedi disgyn llawer o 52% lawr i 47.3%, ond yn yr achos hon mae llawer llai o siaradwyr: o 37,918 lawr i 34,946: colled sylweddol yn niferoedd yn ogystal a ganrannau. Roedd na dwf o ryw mil yn y poblogaeth hefyd (lot llai ag oedd llawer o bobl yn ddisgwyl). Twf poblogaeth yn Aberystwyth oedd yn fwy na hwn, sydd yn ystyru lleihad yn poblogaeth gweddill y sir.
Yn Aberystwyth, dyma'r stori, ward wrth ward. Hyd y gwn i, does neb arall wedi dadansoddi'r ystadegau yma ar blog. Ac mae'n nhw'n bach o anhygoel weithiau!
Ward y Gogledd (bron iawn o'r ward rhwng Morfa Mawr a Bryn Penglais; hefyd y prom fyny at Neuadd y Brenin)
Blwyddyn
Nifer o Siaradwyr
Nifer o drigolion
Canran
2011
613
2618
23.4%
2011
608
1931
31.5%



Ward y Canol (lot o'r ardal rhwng Morfa Mawr, Heol y Wig ac i'r ddwyrain ar hyd y rheilffordd nes y bont cerddwyr)
Blwyddyn
Nifer o Siradwyr
Nifer o drigolion
Canran
2011
652
2447
26.6%
2001
614
2149
28.6%

Ward Bronglais (ochr y ddwyrain, rhwng Bryn Penglais a Plascrug)
Blwyddyn
Nifer o Siradwyr
Nifer o drigolion
Canran
2011
745
2041
36.5%
2001
817
1904
42.9%

Ward Rheidol (i'r dde o'r dref, hyd at ddechrau Penparcau)
Blwyddyn
Nifer o Siradwyr
Nifer o drigolion
Canran
2011
819
2686
30.5%
2001
836
2404
34.8%

Penparcau
Blwyddyn
Nifer o Siradwyr
Nifer o drigolion
Canran
2011
1095
3005
36.4%
2001
1180
2979
39.6%

Aberystwyth dref cyfan
Blwyddyn
Nifer o Siradwyr
Nifer o drigolion
Canran
2011
2829
9792
28.9%
2001
2875
8388
34.3%

Aberystwyth a Phenparcau
Blwyddyn
Nifer o Siradwyr
Nifer o drigolion
Canran
2011
3924
12979
30.7%
2001
4055
11367
35.7%

Fel y gwelwn ni, does dim lot llai o siaradwyr Cymraeg yn Aberystwyth nag yn 2001, ond mae'r canran wedi disgyn gan dros 5 pwynt canran; mae'r stori yn debyg gyda Aberystwyth & Penparcau hefyd. Hynny oherwydd twf yn y poblogaeth. Ymddengys effaith y twf hwn yn Ward y Gogledd er enghraifft (fy ward fy hunan), lle mae nifer o siaradwyr Cymraeg wedi codi ond y canran sydd yn medru'r Gymraeg wedi disgyn gan dros 8 pwynt canran! Gwelwn yr un beth trwy Aberystwyth a Phenparcau: mae nifer o siaradwyr Cymraeg yn aros yn weddol gyson, ond mae'r canrannau yn disgyn yn sylweddol. Mewn ffordd, mae'n enghraifft (lot) fwy eithafol o'r hyn sydd yn digwydd yng Nghymru ar eu cyfan.
Cwestiwn sydyn:
Cwestiwn: A ydy'r sefyllfa yn anobeithiol?
Ateb: Ydy, os fynnwn ni.
(Tynged yr Iaith, Saunders Lewis, 1962. BBC.)

Beth ydy hynny'n ystyru?

A ddylid anwybyddu Aberystwyth ar sail ei heithriadolrwydd? Mae'r hogyn o Rachub wedi awgrymu fan ma http://rachub.blogspot.co.uk/2013/01/heb-fangor-heb-aber-heb-gaergybi-heb.html mae'r ystadegau am y siroedd sydd yn cael eu hystyried fel cadarnleoedd y Gymraeg yn edrych yn well petaech chi'n ystyru nhw heb y dref fwyaf: Sir Fon heb Caergybi, Gwynedd heb Bangor, Ceredigion heb Aberystwyth, Sir Gar heb Llanelli. Dwi'n tueddu o anghytuno gyda'r fath dadansoddiad yn gyfan gwbl, ar sail does 'na dim ofni'r ffaith mai Aberystwyth yng Ngheredigion, oherwydd mai unwaith yr ydym yn gadael rhyw ardal i fynd bydd y gweddill yn debyg o ddilyn yn fuan, oherwydd mae Aberystwyth yn lle ganolog i bobl o draws rhannau fawr o gefn gwlad Ceredigion ac felly mae'n ffol credu fod modd gwahaniethu rhwng Aberystwyth a Ceredigion, ac wrth gwrs er lles Aberystwyth a'u trigolion - mae cymdeithas Cymraeg cryf a byrlymus yma na ddylid ei hanwybyddu: bydd yn ofnadwy o drist anwybyddu'r gymaint o gyfraniad mae Aberystwyth yn wneud i'r iaith Gymraeg.
Ond, ta waeth, 'nawn ni sbio at yr ystadegau.
Blwyddyn 2011
Nifer o siaradwyr
Nifer o drigolion
Canran
Ceredigion
34964
73847
47.3%
Ceredigion heb Aber & Penp.
30909
62480
49.5%
Mae'n hawdd gweld fod yr iaith Gymraeg bellach yn iaith lleiafrifol yng Ngheredigion hyd yn oed os anwybyddwn Aberystwyth a Phenparcau.

Felly does dim ofni'r gasgliad mai dyfodol yr iaith Gymraeg yn Aberystwyth yn hynod o bwysig. Mae'n dilyn, felly, mae angen gweithredu drosti. Mae angen weithredu er mwyn cryfhau'r cymdeithas Cymraeg sydd gynnom ni, er enghraifft trwy sicrhau mwy o gyfleoedd i siaradwyr Cymraeg defnyddio'r iaith. Mae angen atal llifoedd o ieuenctid Cymraeg allan o'r Fro Gymraeg trwy gryfhau economiau lleol. Mae angen helpu mwy o bobl i siarad/dysgu mwy o Gymraeg, gan mae llawer sydd yn eisio dysgu'r iaith ond ddim wedi cyrraedd y nod hwn eto. Mae angen codi status ac weledigaeth y Gymraeg er mwyn cyfrannu at yr amcanion uwchben.

Fel cynghorydd dref, dw i methu datrys yr holl sefyllfa fy hunan, ond dwi'n gallu cyfrannu, ac yn y post nesaf, bydda i'n esbonio beth dw i newydd wedi gwneud yn y Cyngor Dref dros y Gymraeg.

Ystadegaethau i gyd o  www.neighbourhood.statistics.gov.uk

No comments:

Post a Comment