12.11.13

Rhandiroedd Newydd i Aberystwyth (a'r ardal)?

Mai argyfwng yng Ngheredigion parthed a rhandiroedd. Ar hyn o bryd, mae 70 o bobl yng Ngheredigion ar y rhestr aros i gael rhandiroedd, ac mae pobl yn aros am fwy na phum mlynedd. Mewn oes lle mae materion amgylchedd yn fwy bwysig nag erioed, ac mae prisiau bwyd yn codi'n gyflym tra i incwmau disgyn, mae rhandiroedd yn gwneud fwy o synnwyr amgylcheddol ac ariannol nag erioed.
Yn ogystal a hynny, mae yna pryderon am gyflwr y rhandiroedd sydd eisoes ym Mhenparcau, yn sgil y llifogydd llynedd.

Mae cynlluniau eraill wedi'u gosod yn aml i ymdrin ag y problem hwn, ond cafwyd problemau. Cafwyd wrthwynebiad cryf gan trigolion lleol ym Mhenparcau pan ceisiodd Cyngor y Tref i sefydlu rhandiroedd newydd ymyl y sawl sydd yn bodoli eisoes. Yn Waunfawr, mae'r maen tramgwydd oedd y cynllun datblygu lleol. Hefyd, mae'n glir nad yw'r cyngor sir yn awyddus i sefydlu rhandiroedd newydd; mewn ffaith maent yn awyddus i drosglwyddo rhandiroedd sydd eisoes yn bodoli i gynghorau tref a chymuned, os bosib, sydd yn fwy debyg o ennill grantiau ayyb.

Ond mae syniad newydd wedi codi, Mewn cyfarfod pwyllgor rheolaeth gyffredinol Cyngor Tref Aberystwyth ar noswaith 11/11/13, cyflwynwyd cynlluniau a ddyluniwyd ar y cyd gyda Prifysgol Aberystwyth i sefydlu llawer o randiroedd newydd cyferbyn PJM. Mae hynny'n ddatblygiad wych, sydd a'i wraidd yng ngofyniadau gan myfyrwyr a staff am rhandiroedd. Gan mae'r bron iawn o fyfyrwyr yma am dim ond tair flynedd, does dim pwynt i fyfyrwyr ymuno a rhestr aros sydd yn fwy na pum mlynedd, fel y mae ar hyn o bryd! Os adeiladir rhandiroedd, adeiladir tua 110 o randiroedd yn y lle cyntaf, gyda phosibiliad o dua 150 arall os mae llawer o bobl yn awyddus i gael rhandiroedd.

Mae'r potensial yma i ddarparu i lawer fwy o bobl y cyfle i dyfu eu bwyd eu hunain, yn weddol lleol a gan hynny i arbed llawer o arian hefyd. Os sefydlir y rhandiroedd hwn, bydd yn bosib leihau'r rhestr aros yn sylweddol, ac bydd hynny'n wych i'r dref yn gyffredinol :)

Nad yw'r cynllun heb eu heriau wrth gwrs. Bydd y plotiau yn 50m sgwar, sydd yn weddol fawr ond yn llai na rhai o'r rhandiroedd sydd eisoes yn bodoli ym Mhenparcau. Wrth gwrs, ar y llaw arall, nad pawb sydd eisiau rhandiroedd o'r maint sydd ym Mhenparcau! Hefyd, os arweinir y prosiect hwn gan Cyngor Dref Aberystwyth, bydd weinyddu'r prosiect yn cymryd llawer o amser gan staff y cyngor.


Ar y cyfan, yn hapus iawn, croesawyd yr egwyddor o redeg rhandiroedd gan y cyngor dref. Y cam nesaf fydd tacluso a gweithio ar y cais ariannol dros y prosiect. Gobeithio fe welir rhandiroedd newydd yn Aberystwyth yn y dyfodol agos, yn gwneud cyfraniad aruthrol i'r dref ac i'r byd.

No comments:

Post a Comment