4.4.14

Achub Pantycelyn – Y Brwydr Wedi'i Henill!

Cawsom newyddion gwych heddiw – bydd Neuadd Pantycelyn yn parhau fel neuadd preswyl Cymraeg

Ers cryn amser, mae Neuadd Pantycelyn – neu Panty fel mae pawb yn galw hi – wedi gwneud cyfraniad gwych at y Prifysgol, yr Ardal, yr Iaith Gymraeg a'r Genedl Gymreig, drwy ddarparu canolbwynt i ddiwylliant Cymraeg sydd yn cynnwys llety i fyfyrwyr Cymraeg y prifysgol, ac hynny gan ei bod hi'n neuadd agored gyda 6 ystafell cymdeithasol – Lolfa Fawr (ymlacio), Swyddfa UMCA (Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth), Ffreutur, Ystafell Cyfrifiaduron, Ystafell Cyffredin Hyn (cyfarfodydd), a'r Lolfa Fach (Cor, dawnsio ayyb)
Des innau i'r brifysgol o dde-ddwyrain Lloegr bron a saith mlynedd yn ol heb y Gymraeg, a bywes ym Ymhantycelyn i ddysgu. Roedd ffurfweddiad y neuadd a'r cymdeithas ynddi yn hynod o gymorthgar yn fy ngalluogi i ddysgu Cymraeg, ac roedd yn profiad anhygoel – cwrdd a fyfyrwyr Cymraeg o bob cwr o Gymru (a thu hwnt mewn sawl achos), gweld – ac ymuno a – cyfres o weithgareddau diwyllianol ag oedd yn digwydd yn y stafelloedd cymunedol. I sawl myfyriwr Cymraeg o ardaloedd Saesneg hefyd, sydd weithiau ddim wedi arfer siarad Cymraeg tu hwnt i'r giatiau ysgol, dyma'r tro gyntaf iddynt fyw mewn cymuned Cymraeg. Ac heb anghofio'r hawl i fyfyrwyr Cymraeg iaith gyntaf i fyw yn eu hiaith eu hunain. I bawb sydd yn ddod i Bantycelyn, mae'r profiad yn amhrisiadwy.

Mae myfyrwyr Pantycelyn yn gwneud cyfraniad gwych i'r cymuned ac i Gymru – er enghraifft mae'r Cor yn canu yn y dref bob nadolig, mae Aelwyd Pantycelyn aml yn cyrraedd rowndiau terfynol yn eisteddfodau gan codi proffil Aberystwyth ac mae Wythnos RAG aml yn codi tua £1000 neu mwy i elusenau

Roedd y cynlluniau i gau Pantycelyn yn cas ac yn amlwg yn seiliedig ar resymeg ariannol ar draul yr iaith Gymraeg a'r gymuned Gymraeg yn y prifysgol, felly dwi'n hynod o falch bod y prifysgol wedi gwrando yn y diwedd, yn sgil sawl brotest ag ro'n i'n falch i fod yn rhan ohonynt, ac wedi penderfynu cadw Pantycelyn ar agor.

Mae'r cynlluniau newydd yn cytuno i gadw'r bron iawn o Bantycelyn fel neuadd preswyl Cymraeg, ond o bosib gyda sawl ystafell yn cael eu troi'n rhan o Ganolfan Cymraeg newydd i'r holl prifysgol (staff a myfyrwyr) a'r cymuned. Mae'r manlynion eto i'w cwblhau, ond mae'n debyg byddwn ni'n gweld mwy o ryngweithiad rhwng myfyrwyr, staff y prifysgol a'r cymuned ehangach, a mwy o weithgareddau Cymraeg. Ac yn mwyaf bwysig oll, bydd myfyrwyr dal gyda'r cyfle euraidd i fyw yng nghanol y bwrlwm!

Byddwn ni'n dathlu heno!!

No comments:

Post a Comment