21.5.14

Pam fydda i'n pleidleisio dros Jill Evans/Plaid Cymru yfory?

Wel, mae'r amser yn hedfan ac mae'r etholiadau ewropeaidd bron ag wedi cyrraedd. Ar ol y polau diwethaf, yn dibynnu'n fawr faint o bobl wnaiff bleidleisio, mae dim ond ychydig o bleidleisiau yn gallu penderfynu cystadlaeth tri-ffordd rhwng Plaid Cymru, Llafur a'r Ceidwadwyr http://www.clickonwales.org/2014/05/polling-trends-show-ukip-still-on-the-rise/

Efallai dyma beth wyt ti'n disgwyl o gynghorydd Plaid Cymru, ond dw i wedi bod yn treulio llawer gormod o fy amser yn mynd o gwmpas Aberystwyth a Cheredigion yn canfasio a dosbarthu taflenni i annog pobl i bleidleisio dros Blaid Cymru. Dyma ychydig o'r resymau pam:

Rhoi Cymru'n Gyntaf: Dim ond Plaid Cymru sydd yn rhoi Cymru'n gyntaf bob tro. Dim ond Plaid Cymru sydd yn atebol yn unig i bobl Cymru. Mae Jill Evans wedi gwthio'n galed iawn i roi Cymru ar y map am fuddsoddiad, cymorth a rhaglenni cymdeithasol.

Gweithredu ar Newid Hinsawdd: Mae Jill Evans wedi bod ar flaen y gad yn galw am fuddsoddiad yn ynni adnewyddadwy. Mae hi hefyd wedi bod yn llais gryf dros wahardd ffracio nes wyddir y canlyniadau amgylcheddol ac iechyd o'r broses. Mae Plaid Cymru yn eistedd yn y grwp Gwyrddiad-EFA yn Ewrop, gyda phleidiau werdd a phleidiau sydd eisiau rhyddhau gwledydd bach ar draws Ewrop, ac maent yn parchu hi gymaint bo hi'n is-gadeirydd y grwp! Mae'r graffig hwn http://www.caneurope.org/resources/doc_view/2384-united-kingdom-meps-and-parties-scorecard-2014 yn dangos mae Plaid Cymru sydd wedi gwneud y mwyaf ar newid hinsawdd (mwy nag y Plaid Werdd!) ar ol y Climate Action Network Europe.

Adfer y Gymraeg: Dim ond Plaid Cymru sydd am weld yr Iaith Gymraeg yn ffynu ym mhob maes. Dim ond Plaid Cymru sydd yn galw i neud y Gymraeg yn iaith swyddogol yn yr Undeb Ewropeaidd. http://www.plaidcymru.org/newyddion/2014/05/21/dim-ond-plaid-cymru-fydd-yn-hybur-iaith-gymraeg-yn-ewrop/ Mae gwneud yr Wyddeleg yn iaith swyddogol yn yr Undeb Ewropeaidd wedi ychwanegu at hyder siaradwyr Gwyddeleg ac wedi helpu i gynyddu defnydd yr Wyddeleg yn Iwerddon. Bydd Jill Evans yn parhau i frwydro dros gyllid a chymorth a seilwaith a pholisiau i annog datblygiad economaidd mewn ardaloedd Gymraeg (a phob man yng Nghymru) er mwyn darparu cyfleoedd i siaradwyr Cymraeg aros yn eu cymunedau a chyfrannu at ddyfodol yr Iaith

Dyma lle aiff fy mhleidlais yfory. Ac bydda i'n lan yn gynnar i ddosbarthu mwy o daflenni yn y bore

No comments:

Post a Comment