9.11.15

Sul y Cofio 2015, Aberystwyth

Roedd Sul y Cofio eleni’n un hanesyddol iawn. Am y tro cyntaf, roedd y prif seremoni yn cynnwys y pabi gwyn yn ogystal â’r pabi coch. Mae hyn yn dilyn trafodaethau calonogol iawn rhwng grŵpiau heddwch a’r Lleng Brydeinig Frenhinol (Ll.B.F.), lle cafwyd cytundeb da iawn rhyngddynt.

Mae’r pabi gwyn wedi bod yn traddodiad ers y 1930au, ac fe’i chychwynwyd i gofio pawb a fu farw/ dioddef mewn rhyfeloedd, yn ogystal â chyfleu neges glir o heddwch. Mae’r rhesymeg yn glir: pe waredir ar ryfel, gwaredir ar y dioddefaint sy’n canlyniad i ryfel. Mae’n werth nodi hefyd mae’r mwyafrif helaeth o ddioddefwyr ryfel erbyn heddiw yn sifiliaid, sydd yn wahanol iawn i’r sefyllfa yn y rhyfel byd gyntaf. Felly mae nifer o bobl yn teimlo fod angen ehangu coffáu drwy wisgo/osod pabi gwyn, yn aml yn ogystal a’r un coch. Mae’r dyfyniad canlynol gan ymgyrchwr heddwch, Pat Richards , yn amlinelliad da iawn o’r rhesymeg tu ôl y pabi gwyn a sut mae’n cyd-fynd a’r pabi coch.

“Mae gen i pabi coch i gofio marwolaeth dau hen ewythyr. Bu un yn farw yn llaid Paschendale, a’r llall yn yr Aifft ar 10fed mis Tachwedd 1918 wedi ymladd drwy’r rhyfel i gyd. Mae’r un gwyn rwy’n gwisgo, wastad yn dod a ffrind fy Mam i’m meddwl. Bu’r 2 menyw ifanc yn nyrsys yn Llundain yn ystod y Blitz, fe laddwyd ffrind fy Mam wrth iddi helpu’r cleifion i gyrraedd y cysgodfeydd.



Trwy’r degawdau mae torchau gwyn wedi cael eu gosod wrth y Senotaph yn Llundain yn aml, ac mae torchau gwyn yn cael eu gosod ar bwys y rhai coch mewn sawl tref ar benwythnos y cofio. Yn Aberystwyth, mae’r Cyngor Tref wedi gosod torch gwyn yn ogystal a thorch coch bob blwyddyn ers 2004, ac mae sawl grŵp heddwch wedi gosod torchau gwyn hefyd, gan gynnwys Rhwydwaith Heddwch a Chyfiawnder Aberystwyth, Côr Gobaith a Menywod mewn Du. Serch hynny, tan eleni mae’r rhain wedi cael eu gosod mewn seremoni ar wahan, ar y dydd Sadwrn neu tua 1yp ar y dydd Sul.

Dw i wedi mynychu’r ddau seremoni bron a bob blwyddyn ers i mi gael fy ethol fel Cynghorydd Tref, ac dw i wedi sylwi ar faint sydd gan y seremoniau mewn cyffredin. Mae’r ddau yn nodi a chofio canlyniadau erchyll rhyfel, ac maent yn dawel, parchus ac yn teimladwy. Felly pan daeth y Ll.B.F. a’r grŵpiau heddwch at eu gilydd, mewn cyfarfod a gadeiriwyd gan y Cyngor Tref, i gytuno i gyfuno’r ddau seremoni o 2015 ymlaen, mi o’n i’n hapus dros ben.

Gosododd y Maer y torch coc, a gosododd y Dirprwy-Faer y torch gwyn. Yn y llun, dyma nhw (Endaf Edwards ar y chwith a Brendan Sommers ar y de) yn dal y torchau cyn dechrau’r gorymdaith. (llun: Cyng. Alun Williams)


Bu’r Cyngor yn archebu torch pabi coch arferol o’r Ll.B.F. O ran y torch gwyn, archebwyd sawl pabi gwyn o Gymdeithas y Cymod, ac mi wnaeth Columbine, y siop blodau ar Stryd y Ffynnon Haearn, cyfuno nhw mewn torch. Mae safon y torch yn dda iawn. O fy rhan i, finnau a ddyluniodd ac argraffodd y cerdiau a’r cefn i’r torch coch. Mae rhaid dweud, do’n i ddim yn sylwi pa mor amlwg fyddai’r rhain mewn sawl llun ar draws y cyfryngau a’r cyfryngau cymdeithasol!

Yn y seremoni gosod torchau ar ôl y cyfnod o ddistawrwydd, gosodwyd yr holl torchau ar risiau’r Cofeb Ryfel un wrth un, beth bynnag eu lliwiau. Gosodwyd un porffor gan gamgen lleol o Gymorth i Anifeiliad: mae hyn i gofio anifeiliad a fu farw tra’n gwasanaethu mewn rhyfeloedd.

(Gosod torch gwyn ar risiau'r Cofeb Ryfel yn y seremoni gosod torchau. Mae nifer fawr o dorchau coch hefyd yn amlwg, ac mae torchau'r Cyngor Tref yn y cornel top-chwith o'r llun. Llun: Cyng. Alun Williams)

Tynnwyd y torchau i gyd ychydig o amser ar ôl eu gosod eleni, i’w gwarchod rhag y gwyntoedd cryf iawn sydd ar y dydd sul a’r dydd llun, ond gobeithio byddant yn cael eu hail-osod yn fuan. Roedd yn diwrnod parchus a theimladwy, a gobeithio bydd y trefniant hyn yn parhau i gyfoethogi’r dref yn y blynyddoedd i ddod.

No comments:

Post a Comment