24.11.14

Beth sydd angen i'r rheilffordd Aberystwyth-Amwythig

Mae’r rheilffyrdd wasted wedi bod yn pwnc reit diddorol i mi, dw i byth yn siwr pam ond mae rhywbeth am y rheilffordd sydd yn codi fy nghalon. Fel cynghorydd, dw i wedi bod yn gweithio’n galed arno fe, gan gynnwys rhoi holiadur drwy’r mwyafrif o flychau post yn Ward y Gogledd gwanwyn diwethaf!

Yn 2018, daw masnachfraint (franchise) newydd i Gymru – dewis cwmni newydd i redeg ein rheilffyrdd, gan osod amodau a chyfrifoldebau arnynt. Y tro diwethaf, yn 2003, bu’r Adran Trafnidiaeth yn San Steffan yn penderfynu rhoi masnachfraint “dim-twf” i Arriva – hynny yw, doedd dim cyllid o’r llywodraeth i ychwanegu mwy o wasnaethau neu cerbydau. Y canlyniad diffyg seddi ar y trenau fel da ni’n gweld trwy amser. O fewn y cwpl o ddyddiau diwethaf, cyhoeddwyd bydd Llywodraeth Cymru’n cyfrifol am y masnachfraint nawr.
Mae Grwp Llywio Rheilffyrdd y Cambrain (Cambrian Lines Steering Group) yn cynnal ymgynghoriad am beth fydd rhan-ddeiliad eisiau gweld am ddyfodol y gwasanaethau ar reilffyrdd y Cambrian. Bydd rhain yn bwydo mewn i gyflwyniad ag wneir gan y grŵp i Lywodraeth Cymru. Mae’r dyddiad cau yw’r 30ain mis Tachwedd. Felly rhois i gynnig ger-bron y cyngor tref i ni ymateb. Gweler y cynnig islaw, ynghyd a sawl sylw ychwanegol gennyf
Cynnig:
Dylai’r Cyngor Tref ymateb i’r ymgynghoriad gan ofyn am:
·         Wasanaeth llawn bob awr, er gysondeb ac er wella’r gwasanaethau boblogaidd a gynnigir i drigolion Aberystwyth ar y rheilffordd. Fe ddaw fwy o wasanaethau ym mis Mai – ond mae dal angen gwasanaeth bob awr drwy gydol y dydd.
·         Cysylltiadau gwell â gogledd Cymru (drwy Bermo neu drwy Wrecsam) – ar hyn o bryd mae rhaid aros tua awr yn Amwythig neu Cyffordd Dyfi. Mae’n dorgalonnus iawn pan mae’r tren o Aberystwyth yn gyrraedd Amwythig tra bo’r tren i Ogledd Cymru wrthi’n gadael y gorsaf!
·         Ail-agor y rheilffyrdd o Aberystwyth i Gaefyrddin a Phorthmadog i Fangor er mwyn gwella cysylltiadau a chaniatáu teithio rhwng de-, canol- a gogledd- Gorllewin Cymru, yn ogystal a chysylltu 4 tref prifysgol. Bu rhannau helaeth o Gymru’n colli’u rheilffyrdd yn y cyfnod Beeching, ac byddai ail-adeiladu’r rheilffyrdd yma (ar gyfer cyflymderau uwch wrth gwrs) yn sbarduno datblygiad economaidd, a gan hynny atal y llif o bobl ifanc o Orllewin Cymru a chadw’n cymunedau a’r iaith Gymraeg. Maent eisoes wrthi’n ail-adeiladu rheilffyrdd yng Ngorllewin Iwerddon.
·         Ail-agor gorsafoedd Bow Street a Carno er mwyn agor y cefn gwlad a dod a siopwyr a theithwyr mewn i Aberystwyth
·         Cludo nwyddau ar y rheilffordd, yn arbennig i/o Aberystwyth. Bydd hyn yn golygu llai o loriau drwm ar y priffyrdd i Aberystwyth, sydd ddim yn addas at y fath draffig, ac felly bydd y ffyrdd yn sylweddol fwy diogel ar gyfer pawb.
·         Cysylltiadau gwell rhwng y trenau a’r bysiau
·         Mwy o drenau 4 cerbyd. Mae llawer o’r trenau dau gerbyd yn llawn ofnadwy, ac bu rhaid i mi sefyll o Birmingham i’r Drenewydd yn y gorffenol!
·         Lwpiau newydd yn Borth, Caersws, Westbury a Sutton Bridge Junction, er mwyn helpu adfer yr amserlen pan mae oedi yn digwydd, ac hefyd i baratoi at bosibiliad gwasanaeth bob hanner awr yn y tymor hir, pan mae niferoedd y teithwyr wedi codi mwy. Roedd dau blatfform yn Borth a Chaersws yn y 60au, ac roedd y lwp yn Westbury dal yn eu lle hyd at ail-signalo’r rheilffordd yn y 80au. Bellach mae’r signalau wedi newid eto, ac mae’n hen bryd ail-adeiladu’r lwp. Byddai lwp yn Sutton Bridge Junction yn helpu’r llif ar lein y gororau yn ogystal a’r Cambrian.
·         Canopi estynnedig uwchben y platform yng Ngorsaf Trên Aberystwyth, er mwyn cadw teithwyr rhag y glaw. Ers osod ERTMS, mae’r trenau yn stopio pellach i ffwrdd o’r dref ac felly nid yw’r canopi’n cysgodi hyd yn oed 2 cerbyd erbyn hyn. Mae’r gwlypder yn lledu ar hyd y platfform i gyd pan mae’n glawio, gan achosi problemau i bobl sydd yn cael trafferthion yn cerdded. Rwyf wedi siarad a swyddogion Network Rail, ac mae nhw wedi cadarnhau bod estynnu’r canopi’n amcan tymor hir iddynt (ond buont yn gwrthod gwneud e fel rhan o’r rhaglen i adnewyddu’r orsaf yn 2014-15, sydd yn trueni).
·         Erbyn diwedd y masnachfraint newydd, bydd rhaid chwilio am drenau newydd sydd yn gyflawni’r un dyletswyddau a’r rhai presennol h.y. cysylltiadau coridor, 90mpa neu mwy, toiledau, digon o le i bagiau mawr. Ni fydd y trenau dosbarth 158 yn para am byth yn anffodus, ac mae’n sicrhau bod y trenau nesaf yn addas at reilffyrdd y Cambrian.

Yn ffodus iawn, pasiwyd y cynnig. Felly mae’r Cyngor Tref wedi gosod eu stondin; cawn weld be ddaw o Fae Caerdydd.

No comments:

Post a Comment