4.11.14

Gosod plac i goffa T.H. Parry-Williams

Roedd Syr T.H. Parry-Williams yn cawr o lenyddiaeth Cymraeg: bu’n ennill y cadair a’r coron mewn dau eisteddfod genedlaethol, roedd ganddo Gadair yn Adran y Gymraeg yng Ngholeg Prifysgol Cymru Aberystwyth (dyna oedd enw Prifysgol Aberystwyth yn y slawer dydd) pan oedd cyfleoedd felly yn prin iawn; bu’n bardd ac ysgrifwr penigamp gan greu rhestr hir iawn o gyhoeddiadau gampus. T.H. a ysgrifennodd “Hon”, un o’r gerddi Cymraeg mwyaf enwog erioed.

Ganwyd T.H. yn Rhyd-Ddu, Eryri, ond fe symudodd i Aberystwyth i gymryd Cadair yn y Coleg ym 1920, a buodd yn byw yn y dref nes iddo farw yn 1975. Gan oedd e’n byw yn Wern, Ffordd y Gogledd, roedd y ty yn lleoliad gwych i roi plac, i gofio ei gyfraniad i Aberystwyth, Cymru a’r byd. Er bu  ymgais aflwyddianus yn y gorffenol, cafwyd llwyddiant tro hyn. Ar gais y Cyngor Tref, rwyf wedi trefnu dyluniad y plac a’i harchebu.




Dwi’n falch iawn bod y plac wedi mynd i fyny, ac mae’n gyfle gwych i ni yn Aberystwyth dathlu ac ymfalchio yn y llenyddiaeth sydd wedi dod o’r dref a’i chyfoethogi. Mae hybu ymwybodaeth o’r fath pethau yn rhywbeth dylsem ni wneud yn fwy, ac felly yn y tymor canol, gobeithio mae hyn fydd yn cam tuag at gyflwyno golygfa gyfunnol o hanes lenyddol y dref.
Mae’n priodol i mi gwblhau’r blog hyn gyda cherdd gan T.H. Parry-Williams ei hunan:

Bardd
Canodd ei gerdd i gyfeiliant berw ei waed;
Canodd hi, a safodd gwlad ar ei thraed.

Canodd ei gân yn gyfalaw i derfysg Dyn;
Canodd hi, ac nid yw ein llên yr un.

No comments:

Post a Comment