1.4.16

Annibynniaeth i Aberystwyth

Gan ddilyn y trafodaethau am y refferendwm ar aelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd yn y Cyngor Llawn nos Fawrth, gallaf ddatgan fy mod i wedi dod o hyd i lawysgrif yn y Llyfrgell Genedlaethol sydd yn canitáu i Aberystwyth cael ei pholisi tramor ei hunain, gan gynnwys cytundebau rhyngwladol. Mae hyn yn cyffrous iawn i’r dref, o ran ei hanes ac hefyd o ran ei dyfodol

Yn y cyfarfod Cyngor nesaf, byddaf yn gosod cynnig i Aberystwyth datgan ei hannibynniaeth o’r Deyrnas Unedig petai pleidlais o blaid adael yr Undeb Ewropeaidd. Mae hyn yn dilyn y canfyddyddiadau mai Ceredigion, ac yn penodol Aberystwyth, yw’r lle mwyaf cefnogol i’r Undeb Ewropeaidd yn y DU.

Dw i hefyd o blaid i ni ymuno â’r cytundeb Schengen, sydd yn caniatáu rhyddid i symud o gwmpas yr Undeb Ewropeaidd heb angen pasbort. Er byddai angen pasbort i fynd tu allan i Aberystywth o dan y fath system, mi allem ni atgyfodi’r hen tollborthau: Southgate, Northgate ac ati; bydd gwirio pasbortau’n darparu cyflogaeth. Bydd Wetherspoons yn troi’n swyddfa Customs ar gyfer pobl sydd yn cyrraedd ar y trenau.

Gellid ofyn sut mae pobl o Aberystwyth yn gallu teithio’n rhydd i’r Cyfandir os oes rhaid mynd drwy'r DU? Ond mae gennyf cynlluniau cyffrous iawn am hyn...

Beth am “zip-wires” o dop y Graig Glais i Lydaw, Iwerddon, Ynys Manaw yr Alban a Chernyw? Mae syniadau o'r fath wedi ennyn cryn gefnogaeth gan drigolion y dref. Os godwn ni’r praesept digon, efallai gellid adeiladu un i Wlad y Basg hefyd.

Hefyd, mae gynnom clwb rwyfo gwych yn Aberystwyth, sydd yn rhwyfo i Iwerddon yn rheolaidd fel rhan o’r Celtic Challenge. Mae fy nghyd-gynghorydd tref Steve Davies a’i ffrindiau wedi cynnig rhoi lifftiau i bobl ar draws y Môr Geltaidd – caredig iawn!


Mae hyn yn cyfnod cyffrous iawn. Yn y tymor hir, hoffwn i weld Aberystwyth yn dod yn wlad annibynnol a dilyn ôl-troedion Llanrwst gan geisio am aelodaeth o’r Genhedloedd Unedig.

No comments:

Post a Comment