8.5.16

Pleidleisio tactegol yng Ngheredigion

Mae pawb siŵr o fod yn cyfarwydd â’r cysyniad o bleidleisio’n tactegol. O dan y drefn Cyntaf i’r Melin (FPTP), mae cefnogwyr o bleidiau sy’n llai yn yr etholaeth yn aml yn pleidleisio dros un o’r ymgeiswyr fwy. Er enghraifft, byddai rhai gwyrddiaid yn benthyg eu pleidlais i Blaid Cymru ac ati.
Mae’r system etholiadol yng Nghymru, gyda 2 pleidlais – un i’r etholaeth ac un i’r rhanbarth – yn cynnig cyfle i ddeall pa carfannau sy’n pleidleisio’n tactegol, a thros pwy.



Dyma’r ystadegau felly. Mae’n amlwg bod rhai o bleidliau yn cael llai neu mwy o bleidleisiau ar y rhanbarth nag yn yr etholaeth. Cafodd y gwyrddiaid tua 50% o bleidleisiau ychwanegol yn y rhanbarth, gan ddilyn eu hymgyrch i gael Aelod i’r rhanbarth. Mae’r rhyddfrydwyr wedi cael llawer lai o bleidleisiau yn y rhanbarth nag yn yr etholaeth. Llafur oedd un o’r pleidiau eraill a gafodd llawer fwy o gefnogaeth yn y rhanbarth nag yn yr etholaeth.

Er mwyn deall ble mae’r pleidleisiau’n mynd rhwng y prif bleidiau, mae angen diwygio’r ffigyrau am y pleidlais rhanbarthol. Bu 757 o bobl yn pleidleisio yng Ngheredigion ond nid yn y  rhanbarth. Hefyd, aeth nifer bach o bleidleisiau i bleidiau nad oedd yn cystadlu yn y rhanbarth. Ar ôl anwybyddu’r rhain, a chodi’r nifer o bleidleisiau rhanbarthol i’r brif pleidiau fel bod y nifer o etholwyr yr un fath i’r ddau cystadlaeth, rydym yn gweld y gwahaniaethau canlynol, rhwng y pleidleisiau rhanbarthol a’r pleidleisiau etholaeth:

Plaid
Plaid Cymru
Dem Rhydd
UKIP
Ceidwadwyr
Llafur
Gwyrdd
Gwahaniaeth – nifer
-366.4
-3224.4
+573.7
+1012.3
+1274.6
+730.2
Gwahaniaeth - canran
-3.0%
-33.6%
+21.5%
+48.8%
+67.0%
+59.7%

Mae hyn yn awgrymu sawl peth. Y mwyaf amlwg yw bod democratiaid rhyddfrydol yn colli dros draean o’i gefnogaeth ar y pleidlais rhestr, a gan bod y nifer a fu’n pleidleisio i’r democratiaid rhyddfrydol  yn mor fawr, mae hynny’n ystyried dros 3000 o bleidleisiau.
Peth arall sydd yn amlwg iawn yw bod llawer o gefnogwyr llafur, ceidwadwyr a gwyrdd wedi pleidleisio’n tactegol yn yr etholaeth. Mae’r tri plaid wedi ychwanegu tua 50% at eu cefnogaeth yn y rhanbarth.

Un o’r pethau diddorol iawn yw pa mor stabl oedd pleidlais Plaid Cymru. Mae hyn i raddau’n syndod, oherwydd mae Elin yn poblogaidd iawn yn yr ardal, ac roedd llawer o bobl ar y stepen drws yn brwd iawn amdani. Ond mae’n edrych fel mae’r ymgeisydd lleol yn “blaen-siop” i’w phlaid yn gyffredinol – mae cefnogwyr Plaid Cymru yn pleidleisio i Elin yn yr etholaeth ac yno pleidleisio i’w phlaid yn y rhanbarth.

Na’i ddim gwadu bod gan Elizabeth Evans o’r democratiaid rhyddfrydol llawer o gefnogwyr yng Ngheredigion. Ond os ydynt yn cefnogi hi, byddai disgwyl i bleidlais y rhyddfrydwyr aros yn eitha stabl ar y rhestr rhanbarthol hefyd.

Yr unig casgliad yw bod y pleidlais rhyddfrydol yn pleidlais clymblaid – pleidlais tactegol yn erbyn Plaid Cymru. Mae llawer o gefnogwyr Ceidwadwyr a Llafur, a rhai cefnogwyr UKIP hefyd,  yn pleidleisio dros y Democratiaid Rhyddfrydol mewn ymgais i atal Plaid Cymru rhag cipio’r sedd. Bu Alun Williams yn ysgrifennu am hyn peth amser yn ôl: http://bronglais.blogspot.co.uk/2010/05/ceredigion-8000-why.html

Mae hyn hefyd yn adlewyrchu’r ymgyrch negyddol iawn mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi rhedeg yng Ngheredigion eleni, lle oedd sawl taflen rhyddfrydwyr yn ffocysu mwy ar wrthwynebu Plaid Cymru nag ar hyrwyddo’r eu plaid eu hunain. Yn amlwg mae’r “bar-charts” sy’n dangos bod yr etholiad y ras dau ceffyl yn cael effaith.


Yn ffodus iawn, bu Plaid Cymru’n rhedeg ymgyrch positif iawn yng Ngheredigion eleni, ac mae’r canlyniad yn glir. Mae Elin Jones wedi cynyddu’i mwyafrif, ac mae’r ymgais i adeiladu clymblaid yn erbyn Plaid Cymru wedi bod yn methiant. Dychymygwch am eiliad: tybed pa mor wahanol fyddai gwleidyddiaeth Ceredigion pe tasai pawb yn pleidleisio dros eu hoff plaid wleidyddol?

No comments:

Post a Comment