21.7.13

Agoriad Drysfa yn Aberystwyth

Wel, ar ol yr holl dadleuon ambyti'r drysfa newydd ar yr hen lle bowlio rhwng Morfa Mawr a Ffordd y Gogledd, mae'r agoriad swyddogol wedi bod. Ac am ddiwrnod hyfryd! Er gwaetha popeth ag oedd yn y Daily Mail, roedd pawb a ddaeth i'r agoriad yn joio a chael hwyl. Roedd dros 20 o bobl yna am yr agoriad swyddogol (dwi'n meddwl), ac roedd e'n wych gweld pawb yn gael gymaint o hwyl. Ro'n i'n joio'r holl brofiad o deithio, fynd ymhellach, fynd ar goll bach, wedyn mynd yn agosach, ac wedyn cyrraedd y canol. Dw I pendant yn meddwl mai'r drysfa hon yn ychwanegiad wych i Ward y Gogledd ac i Aberystwyth.

Un o'r pethau arall sydd yn wych am y prosiect 'ma yw'r cylfeoedd i bywyd gwyllt: mae'r pystiau yn amlwg yn boblogaidd gydag adar, ac mae planhigion wyllt yn tyfu rhwng y llonnau yn barod.

Mae hwn wedi bod yn taith eitha hir a dadleuol ar adegau, ond dwi'n meddwl mai'r canlyniad yn wych :)

Beth am mynd i weld (a cherdded) y drysfa heddiw? Mae'n diwrnod godidog!

No comments:

Post a Comment