25.7.13

Dwi'n sioc a siom gan cyhoeddiad diweddaraf y gweinidog trafnidiaeth newydd am y gwasanaeth bob awr i Aberystwyth. Ar ol disgwyl y gwasanaeth ers amser maith, mae sylwadau diweddar gan Edwina Hart yn awgrymu bydd rhaid i ni aros hyd yn oed fwy! Mae Alun Williams wedi esbonio'r peth yn dda iawn ar ei flog
http://www.bronglais.blogspot.co.uk/2013/07/setback-to-cambrian-line-hourly-service.html  ;dyma copi o'r ebost a ddanfonais at Edwina Hart. Efallai, efallai, os mae hi'n cael digon o ebostion bydd rhaid iddi hi newid ei meddwl, gallwn wastad gobeithio!



Annwyl Edwina Hart AC

Ysgrifennaf atoch i'ch gofyn i ail-ystyried eich sylwadau warthus a niweidiol ynglyn ag y cais am wasanaethau tren bob awr i Aberystwyth a'r Rheilffyrdd Cambria.

Mae llawer o drigolion yn fy ward yn defnyddio/dibynnu ar y gwasanaethau trên o Aberystwyth i'r ddwyrain ac i weddill Cymru. Mae'r gwasanaethau yn hanfodol i'r ardal ac yn gludo teithwyr busnes (y ddwy ffordd), teithwyr hamdden (yn cynnwys twristiad), ac myfyrwyr brifysgol ymysg eraill. Mae pwysigrwydd y gwasanaethau hon yn amlwg iawn wrth ystyried y twf sylweddol yn niferoedd o deithwyr ar Rheilffyrdd Cambria dros y degawd diwethaf. Er enghraifft, mae niferoedd sydd yn teithio o Aberystwyth wedi tyfu o 241,000 yn 2004/5 i 326,000 yn 2011/12. Mae'r trenau yn cael llawer o ddefnydd ac mae'n nhw weithiau yn ofnadwy o lawn: tra oeddwn ar wasanaeth o Wolverhampton i Aberystwyth cwpl o wythnosau yn ol, roedd pobl dal i sefyll yn y trên am gydol y taith! Ac mae'r taith o ardal Birmingham i Aberystwyth yn tua thri awr o hyd! Roedd y trên hon yn eithriadol o fyr, mae rhaid cyfaddef, ond mae'n dangos bod yna galwad enfawr am wasanaethau trên ar y rheilffordd hon. Ac mae'r trenau yn llawn yn aml iawn.

Mae'n hollol amlwg mai ardal sydd yn mor ddibynnol ar y gwasanaeth trenau am gyswllt a phob man tu allan i'r ardal yn haeddu gwasanaeth bob awr, wrth ystyried pa mor llawn yw'r trenau. Mae'n hefyd yn amlwg bydd cynydd yn nifer y trenau yn hybu datblygiad economaidd. Gyda gwasanaeth bob awr, bydd yn fwy bosib i fusnesau gyfathrebu ag ardaloedd bell, ac bydd mwy o swyddi yn yr ardal fel canlyniad – swyddi sydd wir angen.

Yn fy marn i, bydd unrhyw gohiriad mwy i gyflwyni wasanaeth trên bob awr i Aberystwyth yn siom i drigolion Aberystwyth ac yn niweidiol i'r economi lleol. Wrth ystyried hynny, mynnaf i chi ail-ystyried eich sylwadau a'ch weithredau ambyti gwasanaeth rheilffordd bob awr ar y Rheilffyrdd Cambria o Aberystwyth i'r ddwyrain.

Mae fy etholwyr wedi aros am y gwasanaeth bob awr am dros degawd ac hanner, ac mae'r cyhoeddiad a ddaeth sawl ddiwrnod yn ôl wedi codi pryderon ac wedi chwalu obeithion yn yr ardal. Mae trigolion Aberystwyth yn haeddu gwell.

Gobeithio newidiwch eich feddwl am y mater bwysig hon.

Yr eiddoch yn gywir

Cynghorydd Jeff Smith, Cyngor Tref Aberystwyth, Ward y Gogledd

No comments:

Post a Comment