25.7.13

Dwi'n sioc a siom gan cyhoeddiad diweddaraf y gweinidog trafnidiaeth newydd am y gwasanaeth bob awr i Aberystwyth. Ar ol disgwyl y gwasanaeth ers amser maith, mae sylwadau diweddar gan Edwina Hart yn awgrymu bydd rhaid i ni aros hyd yn oed fwy! Mae Alun Williams wedi esbonio'r peth yn dda iawn ar ei flog
http://www.bronglais.blogspot.co.uk/2013/07/setback-to-cambrian-line-hourly-service.html  ;dyma copi o'r ebost a ddanfonais at Edwina Hart. Efallai, efallai, os mae hi'n cael digon o ebostion bydd rhaid iddi hi newid ei meddwl, gallwn wastad gobeithio!



Annwyl Edwina Hart AC

Ysgrifennaf atoch i'ch gofyn i ail-ystyried eich sylwadau warthus a niweidiol ynglyn ag y cais am wasanaethau tren bob awr i Aberystwyth a'r Rheilffyrdd Cambria.

Mae llawer o drigolion yn fy ward yn defnyddio/dibynnu ar y gwasanaethau trên o Aberystwyth i'r ddwyrain ac i weddill Cymru. Mae'r gwasanaethau yn hanfodol i'r ardal ac yn gludo teithwyr busnes (y ddwy ffordd), teithwyr hamdden (yn cynnwys twristiad), ac myfyrwyr brifysgol ymysg eraill. Mae pwysigrwydd y gwasanaethau hon yn amlwg iawn wrth ystyried y twf sylweddol yn niferoedd o deithwyr ar Rheilffyrdd Cambria dros y degawd diwethaf. Er enghraifft, mae niferoedd sydd yn teithio o Aberystwyth wedi tyfu o 241,000 yn 2004/5 i 326,000 yn 2011/12. Mae'r trenau yn cael llawer o ddefnydd ac mae'n nhw weithiau yn ofnadwy o lawn: tra oeddwn ar wasanaeth o Wolverhampton i Aberystwyth cwpl o wythnosau yn ol, roedd pobl dal i sefyll yn y trên am gydol y taith! Ac mae'r taith o ardal Birmingham i Aberystwyth yn tua thri awr o hyd! Roedd y trên hon yn eithriadol o fyr, mae rhaid cyfaddef, ond mae'n dangos bod yna galwad enfawr am wasanaethau trên ar y rheilffordd hon. Ac mae'r trenau yn llawn yn aml iawn.

Mae'n hollol amlwg mai ardal sydd yn mor ddibynnol ar y gwasanaeth trenau am gyswllt a phob man tu allan i'r ardal yn haeddu gwasanaeth bob awr, wrth ystyried pa mor llawn yw'r trenau. Mae'n hefyd yn amlwg bydd cynydd yn nifer y trenau yn hybu datblygiad economaidd. Gyda gwasanaeth bob awr, bydd yn fwy bosib i fusnesau gyfathrebu ag ardaloedd bell, ac bydd mwy o swyddi yn yr ardal fel canlyniad – swyddi sydd wir angen.

Yn fy marn i, bydd unrhyw gohiriad mwy i gyflwyni wasanaeth trên bob awr i Aberystwyth yn siom i drigolion Aberystwyth ac yn niweidiol i'r economi lleol. Wrth ystyried hynny, mynnaf i chi ail-ystyried eich sylwadau a'ch weithredau ambyti gwasanaeth rheilffordd bob awr ar y Rheilffyrdd Cambria o Aberystwyth i'r ddwyrain.

Mae fy etholwyr wedi aros am y gwasanaeth bob awr am dros degawd ac hanner, ac mae'r cyhoeddiad a ddaeth sawl ddiwrnod yn ôl wedi codi pryderon ac wedi chwalu obeithion yn yr ardal. Mae trigolion Aberystwyth yn haeddu gwell.

Gobeithio newidiwch eich feddwl am y mater bwysig hon.

Yr eiddoch yn gywir

Cynghorydd Jeff Smith, Cyngor Tref Aberystwyth, Ward y Gogledd
I've been shocked and disappointed by the new transport minister's latest announcement on the hourly service to Aberystwyth.After a horrendously long wait, recent comments by Edwina Hart suggest it will be pushed back even further! Alun Williams has covered the issue very well on his blog http://www.bronglais.blogspot.co.uk/2013/07/setback-to-cambrian-line-hourly-service.html  ; here's a (bad translation) copy of the email I've sent to Edwina Hart. Maybe, just maybe, if she receives enough correspondence she might change her mind; we can but hope!


Dear Edwina Hart AM

I am writing to ask you to reconsider your shameful and damaging comments regarding the request for an hourly train services to Aberystwyth and the Cambrian Railways.

Many residents in my ward use / rely on train services from Aberystwyth to the east and to the rest of Wales. The services are vital to the area and passenger business (both ways), leisure travelers (including tourists), and university students among others. The importance of the services is obvious in the significant growth in the number of passengers on the Cambrian Railways over the last decade. For example, the numbers who travel from Aberystwyth has grown from 241,000 in 2004/5 to 326,000 in 2011/12. The trains are well used and sometimes they are exceedingly overcrowded: while I was on a service from Wolverhampton to Aberystwyth couple of weeks ago, people were still standing in the train f the whole journey! And the journey from Birmingham to Aberystwyth area is about three hours long! The train in question was exceptionally short, admittedly, but it shows that there is a huge demand for rail services on this line. And the trains are often full.

It is quite obvious that an area so dependent on rail service for contact with everywhere outside the immediate area deserves hourly, considering how full the trains are. It is also apparent that an increase in the number of trains will promote economic development. With hourly serics, it will be more possible for businesses to communicate with remote areas, and there will be more jobs in the area as a result – jobs that are sorely needed.

In my opinion, any further delay in introducing an hourly train service to Aberystwyth will be disappointing to Aberystwyth residents and damaging to the local economy. Bearing that in mind, I urge you to reconsider your views and actions about an hourly rail service from Aberystwyth on the Cambrian Railways to the east.

My constituents have waited for the hourly service for over a decade and a half, and the announcement which came several days ago has raised concerns and destroyed hopes in the area. Aberystwyth residents deserve better.

I hope you change your mind about this important issue.

Yours sincerely

Councillor Jeff Smith, Aberystwyth Town Council, North Ward

24.7.13

Sgymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth

Mae pawb yn gyfarwydd ag arwyddion "dwyieithog" lle mae'r Gymraeg yn neud dim synnwyr, fel yr un enwog yn Abertawe "No entry for heavy goods vehicles. Residential site only. / Nid wyf yn swyddfa ar hyn o bryd. Anfonwch unrhyw waith i'w gyfiethu." Ond wyddoch chi mae'r tueddiad hon wedi gyrraedd Aberystwyth.

Dros yr Haf, mae strwythur y brifysgol yn cael ei hail-drefnu, gyda'r hen adrannu yn cael eu cyfuno i athrofeydd mawr. Mae'r rhesymeg tu ol i hwn, hyd yr ydwyf yn deall, yw lleihau costau, ac i ganiatau fwy o ymreolaeth ariannol ac weithredol i'r athrofeydd, hynny yw datganoli nifer o'r penderfyniadau o'r lefel uwch-reolaeth i lefelau is. Mae llawer o bryderon sydd wedi cael eu codi ynglyn ag yr ail-strwythuro, rhai am dyfodol swyddi, rhai am dyfodol adrannau bychain, ac hefyd am ddyfodol a statws Adran y Gymraeg.

Roedd yn amlwg i bawb a fynychwyd y cyfarfodydd cyhoeddus ynglyn ag y cynllun hon nad oedd y brifysgol am newid eu meddwl ar yr egwyddor, er gwaetha sawl un ag oedd yn wrthwynebu'r cynlluniau. Er hynny, roedd brwydrau llai dal i ennill, ac un o'r pethau wych am y drefn newydd yw'r rheol bydd ar leia un o'r tim rheoli ym mhob athrofa yn medru'r Gymraeg. Gobeithio bydd hwnna'n sicrhau ystyriaeth i'r Gymraeg ar bob cam o'r broses rheoli yn yr athrofeydd newydd. Ac, wrth gwrs, mae'r Brifysgol yn gyson yn honni eu bod yn parchu'r Gymraeg...

Felly, roedd yr arwyddion a godwyd fel rhan o'r ail-drefnu yn siom mawr:


Beth alla i ddweud?!

Diffygion dwyieithrwydd?


"Myfywyr" ydym ni erbyn hyn, ar ol yr arwydd hon, nid myfyrwyr!

Noder hefyd, mae pob arwydd sydd yn dynodi adeilad yn cynnwys y gair "postcode" ar y gwaelod, ond nid "côd post"

Mae'r diffygion parch tuag at y Gymraeg yma yn warthus. Mae'n fy mhoeni i mae'r Gymraeg yn cael ei thrino fel iaith estron, mewn ffordd, mewn prifysgol sydd yn mor ganolog i Gymreictod.

Mae'n codi cwestiynau ymarferol hefyd: rwy'n siwr bod y prifysgol wedi gwario miloedd o bunnoedd (a ddaeth yn wreiddiol gan ffioedd myfyrwyr) ar yr arwyddion hon, ac mae'n amlwg bydd rhaid ail-wneud rhai ohonynt. Pam na ddanfonwyd y drafftiau i gyd at cwpl o siaradwyr Cymraeg i wirio'r sillafu cyn brynnu'r arwyddion?

Mae 'na ateb i hwn i gyd wrth gwrs: dylai Brifysgol Aberystwyth gweinyddu drwy'r Gymraeg. Byddai hyn yn codi statws y Gymraeg, darparu swyddi lleol i bobl leol, ac yn helpu sicrhau dyfodol i'r Gymraeg. Beth yw iaith, ar y cyfan, os mae dim ond addurn dymunol i fynd ar arwyddion ydi o, yn hytrach na gyfrwng cyfathrebu, cyfrwng gweithredu, cyfrwng byw!

Ond tan y diwrnod hynny, yn anffodus mae'n debyg bydd y triniaeth gwarthus y Gymraeg a welwyd fan hyn yn barhau, ac bydd rhaid i ni gyd ddysgu Saesneg er mwyn crwydro o gwmpas ein campws ein hunain, yn ein gwlad ein hunain, yn y Fro Gymraeg. Gwarthus!

Diweddariad 26/07/2013: Gwelais heno bod yr arwydd wrth adeilad Edward Llwyd wedi cael ei gywirio, ac hefyd mae un o'r ddau arwydd "myfywyr" wedi cael ei dynnu. Rwy'n falch bod y prifysgol wedi gweithredu'n mor gyflym, ac hoffwn i meddwl mae'r cyfryngau cymdeithasol wedi helpu codi ymwybyddiaeth o'r broblem.

21.7.13

Agoriad Drysfa yn Aberystwyth

Wel, ar ol yr holl dadleuon ambyti'r drysfa newydd ar yr hen lle bowlio rhwng Morfa Mawr a Ffordd y Gogledd, mae'r agoriad swyddogol wedi bod. Ac am ddiwrnod hyfryd! Er gwaetha popeth ag oedd yn y Daily Mail, roedd pawb a ddaeth i'r agoriad yn joio a chael hwyl. Roedd dros 20 o bobl yna am yr agoriad swyddogol (dwi'n meddwl), ac roedd e'n wych gweld pawb yn gael gymaint o hwyl. Ro'n i'n joio'r holl brofiad o deithio, fynd ymhellach, fynd ar goll bach, wedyn mynd yn agosach, ac wedyn cyrraedd y canol. Dw I pendant yn meddwl mai'r drysfa hon yn ychwanegiad wych i Ward y Gogledd ac i Aberystwyth.

Un o'r pethau arall sydd yn wych am y prosiect 'ma yw'r cylfeoedd i bywyd gwyllt: mae'r pystiau yn amlwg yn boblogaidd gydag adar, ac mae planhigion wyllt yn tyfu rhwng y llonnau yn barod.

Mae hwn wedi bod yn taith eitha hir a dadleuol ar adegau, ond dwi'n meddwl mai'r canlyniad yn wych :)

Beth am mynd i weld (a cherdded) y drysfa heddiw? Mae'n diwrnod godidog!

Opening of the Aberystwyth labyrinth

Well, after all the arguments about the new labyrinth on the old bowling green between Queen's Road and North Road, the official opening has happened. And what a wonderful day it was! Despite all the sniping in the Daily Mail and so on, everyone who came to the opening enjoyed it and had fun. There were over 20 people there for the official opening (I think), and it was great to see everyone have so much fun. I really enjoyed the whole experience of travelling, going further, getting a bit lost, then getting closer, and then reaching the middle. I definitely think this labyrinth is a good addition to North ward and Aberystwyth.

One of the other things that are great about the project here is wildlife habitats: the posts are obviously popular with birds and wild plants are growing between the lanes already.

It's been a long journey and quite a controversial one at times, but I think the result is great :)

Why not go and see the labyrinth for yourself? It's a beautiful day!